Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Estyn ar Wasanaethau Addysg Sir y Fflint
Published: 13/08/2019
Mae鈥檙 Cyngor yn croesawu adroddiad arolygu Estyn i鈥檔 gwasanaethau addysg sy鈥檔 cael ei gyhoeddi heddiw. Rydym yn cefnogi ac yn cynnal 64 o ysgolion cynradd, 11 o ysgolion uwchradd, 2 ysgol arbennig ac uned cyfeirio disgyblion gyda chyllideb addysg net o dros 拢100 miliwn.听
Estyn yw'r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddi annibynnol yng Nghymru. Cyflawnodd Estyn arolygiad llawn o鈥檔 gwasanaethau addysg ac ieuenctid yn gynharach yr haf hwn. Roedd yr arolygiad yn cynnwys ystod o fudd-ddeiliaid gan gynnwys aelodau etholedig, swyddogion y cyngor, penaethiaid, llywodraethwyr, dysgwyr, swyddogion gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion (GwE) a phartneriaid lleol. Gofynnwyd i rieni, gofalwyr, budd-ddeiliaid a鈥檙 cyhoedd gyflwyno eu barn drwy arolwg ar-lein.
Darganfu Estyn, ar y cyfan, bod disgyblion yn ein hysgolion lleol, gan gynnwys y rhai 芒 hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai gydag anghenion addysgol arbennig, yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser mewn addysg statudol. Mae safonau sydd wedi鈥檜 cyflawni gan ddisgyblion ar ddiwedd eu haddysg uwchradd yn debyg i awdurdodau lleol eraill. Mae Estyn yn nodi bod addysg gynradd yn y sir yn arbennig o gryf gyda鈥檙 gyfran o ysgolion cynradd sy鈥檔 cyflawni dyfarniadau ardderchog am safonau, yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Mae perfformiad grwpiau o ddisgyblion diamddiffyn wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf gyda鈥檙 nifer o'r rhai sy'n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith yn parhau'n isel.
Mae鈥檙 berthynas gweithio effeithio rhyngom ni a鈥檙 gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion (GwE) wedi鈥檌 amlygu fel cryfder gyda chefnogaeth briodol ar gyfer ysgolion gan arwain at wella鈥檙 safonau a gyflawnir gan ddisgyblion. Mae ein darpariaeth ar gyfer disgyblion diamddiffyn, y rhai ag anghenion addysgol arbennig a鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, hefyd yn cael ei ddisgrifio mewn modd cadarnhaol yn yr adroddiad.
Un maes nodedig o berfformiad uchel yw gwaith ymyrraeth gynnar i gefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu plant. Mae hyn wedi cael ei amlygu fel arfer sy鈥檔 arwain y sector.听听
Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn amlygu bod lles mwyafrif y disgyblion yn dda ar draws holl gyfnodau addysg ac yn nodi bod gennym strategaethau i wella iechyd meddyliol ac emosiynol disgyblion yn yr ysgolion a thrwy ddarpariaeth ieuenctid integredig. Mae Estyn yn cadarnhau bod gan blant a phobl ifanc gyfleoedd cadarnhaol i gyfrannu tuag at benderfyniadau ar faterion sy鈥檔 ei heffeithio nhw. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gryf gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer darparu addysg. Mae'r weledigaeth yn cael ei adlewyrchu mewn strategaethau corfforaethol ac yn cael ei gyfathrebu鈥檔 dda.听
Mae鈥檙 adroddiad yn gwneud nifer fechan o argymhellion ar gyfer gwelliannau parhaus, ac rydym yn cytuno 芒'r rhain.听 Mae鈥檙 rhain yn cynnwys parhau i wella'r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, gwella lefelau presenoldeb disgyblion 鈥 yn arbennig yn y sector uwchradd, a lleihau鈥檙 nifer o waharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn argymell ein bod yn gweithio gydag ysgolion i gadw diffyg ariannol ysgolion dan reolaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩wy鈥檔 croesawu鈥檙 gydnabyddiaeth hon o鈥檔 safle a pherfformiad ac rwy鈥檔 hynod o falch bod yr arolygwyr wedi cydnabod y cynnydd da sy鈥檔 cael ei wneud gan wasanaeth addysg sir y Fflint. Mae鈥檔 glod i waith caled pawb sydd ynghlwm.听
鈥淗offwn ddiolch i dimoedd staff gwasanaeth addysg ac ysgolion, y llywodraethwyr, y cynghorwyr a sefydliadau partner am eu cyfraniad i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol yn Sir y Fflint. Mae gan ein gwasanaethau addysg nifer o gryfderau, a bydd holl feysydd gwasanaeth yn dangos llawer o ysgogiad a phenderfyniad i fynd i鈥檙 afael ag argymhellion yr arolygiad.鈥
Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:
鈥淢ae hwn yn adroddiad hynod o foddhaol a dylai pawb fod yn hynod o falch o鈥檙 gwaith caled a鈥檙 ymrwymiad sydd wedi arwain at y cyflawniad hwn.听 Mae鈥檙 adroddiad wedi nodi鈥檙 gwaith effeithiol rhwng t卯m addysg y Cyngor, ein hysgolion a鈥檙 gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion, a'r bartneriaeth gref hon sy鈥檔 darparu profiad addysgol safonol i鈥檔 dysgwyr yn Sir y Flint.
Rydym yn nodi鈥檙 nifer fechan o argymhellion sy鈥檔 adlewyrchu meysydd i wella yr ydym eisoes wedi cydnabod ein hunain, a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu fel Cyngor i flaenoriaethu'r gwasanaethau addysg, er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd heriol parhaus sy鈥檔 wynebu llywodraeth leol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad arolygu yn llawn ar .
听