天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint mewn Busnes yn cynnal Sesiwn Galw Heibio Lwyddiannus ar gyfer y Gwobrau Busnes

Published: 09/08/2019

Mae t卯m Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal sesiwn galw heibio lwyddiannus yn Llyfrgell Gladstone yn ddiweddar.

Aeth busnesau i ddysgu rhagor am sut i gofrestru ar gyfer Gwobrau Busnes Sir y Fflint a chael awgrymiadau gwych ar beth i鈥檞 gynnwys.

Y cymorth a roddwyd:-

  • Cyngor ar ba gategor茂au i gofrestru amdanynt
  • Y ffordd orau o ddefnyddio enghreifftiau o'r busnes yn y cais
  • Rhagor o wybodaeth am y cinio mawreddog a sut i wneud cais am docynnau
  • Cefnogaeth gyda cheisiadau ar-lein ar y wefan

Cyhoeddwyd yr 'alwad am geisiadau' ar gyfer gwobrau Busnes Sir y Fflint 2019, sy'n cynnwys wyth categori. Os ydych chi'n bwriadu cyflwyno cais i'r gwobrau, ond mae arnoch angen awgrymiadau gwych, yna efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn dod i un o鈥檔 sesiynau galw heibio ar gyfer cyngor a chyfarwyddyd ar y math o bethau y bydd y beirniaid yn chwilio amdanynt yn y cais buddugol.

Bydd y sesiwn galw heibio nesaf ar 5 Medi, 2019, rhwng 9:30am ac 1pm yn Llyfrgell Gladstone. I archebu eich lle ac am ragor o fanylion, anfonwch neges e-bost at businessawards@flintshire.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ar gategor茂au鈥檙 gwobrau a sut i gofrestru, ewch i

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, 20 Medi, 2019.