Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Archifdy Sir y Fflint yn ennill achrediad cenedlaethol
  		Published: 26/03/2015
Archifdy Sir y Fflint yw鈥檙 gwasanaeth archifau cyntaf yng ngogledd Cymru i 
ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau.
Mae Gwasanaeth Archifau Achrededig yn sicrhau fod ein treftadaeth archifol yn 
cael ei chasglu, ei dargadw a鈥檌 bod yn hygyrch yn y tymor hir.  Mae鈥檙 achrediad 
yn safon ansawdd newydd yn y DU sy鈥檔 cydnabod perfformiad da ym mhob maes o 
ddarpariaeth gwasanaeth archifol.  Mae cyflawni statws achrededig yn dangos fod 
Archifdy Sir y Fflint wedi cyrraedd safonau cenedlaethol a ddiffinwyd yn glir 
yn ymwneud 芒 rheoli a darparu adnoddau; gofalu am ei gasgliadau unigryw a鈥檙 hyn 
sydd gan y gwasanaeth i鈥檞 gynnig i ystod gyfan o ddefnyddwyr.
Mae鈥檙 Archifdy wedi darparu gwasanaeth archifau i Sir y Fflint ers y 1950au ac 
nid yn unig y mae鈥檔 cadw casgliadau鈥檙 Cyngor Sir ond hefyd cofnodion busnesau 
lleol, eglwysi, ysgolion, ystadau a llawer mwy.  Roedd yn un o鈥檙 archifdai 
cynharaf i gael ei sefydlu yng Nghymru ac mae wedi bod yn nodedig erioed am 
ansawdd ei wasanaeth.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Addysg:
 鈥淩ydym yn falch dros ben mai ein gwasanaeth archifau ni yw鈥檙 cyntaf yng 
ngogledd Cymru i ennill statws achrededig.  Mewn cyfnod o newid mawr mewn 
llywodraeth leol rydym yn falch iawn o allu sefyll ar ein traed a chael ein 
cyfrif am gynnal ansawdd ac ymrwymiad i鈥檙 gwasanaeth a gynigwn i Sir y Fflint 
ac i genedlaethau鈥檙 dyfodol鈥.
Nododd aseswyr yr Achrediad Gwasanaeth Archifau fod perfformiad Archifdy Sir y 
fflint yn dangos darpariaeth gref ym mhob maes gwasanaeth.  Canmolwyd yn 
arbennig: ymrwymiad y gwasanaeth i gyflawni a dargadw鈥檙 Achrediad yn y tymor 
hir; y cynlluniau trylwyr a鈥檙 defnydd effeithiol a wneir o wirfoddolwyr i fwydo 
i mewn i ddatblygiad y gwasanaeth a chefndir nodedig y gwasanaeth mewn 
cadwraeth, cynorthwyo hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ehangach a gwneud 
gwelliannau rhanbarthol.
Ceir manylion yr Archifdy ar wefan y Cyngor sef www.siryfflint.gov.uk/archifau
Nodiadau i olygyddion:
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Claire Harrington, Prif Archifydd, 01244 532414 
neu anfonwch e-bost at Claire.Harrington@flintshire.gov.uk 
Am fwy o wybodaeth am Achrediad y Gwasanaeth Archifau edrychwch ar wefan: 
http://www.nationalarchives.gov.uk/archives-sector/archive-service-accreditation
.htm