Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Gwasanaeth Maethun cefnogi Wythnos Fabwysiadu a Maethu LHDT
  		Published: 20/03/2015
Ymunodd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint 芒 Th卯m Maethu Wrecasm a Gwasanaeth 
Mabwysiadu Gogledd Cymru yn ddiweddar, i gynnal digwyddiad ym Mhrifysgol 
Glyndwr i annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i fod yn 
ofalwyr maeth neu rieni mabwysiadu.  Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o Wythnos 
Fabwysiadu a Maethu LHDT.
Mae prinder mawr o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth Ledled y DU.  Mae angen pobl i 
fabwysiadu tua 4,000 o blant bob blwyddyn a rhaid dod o hyd i 8,000 o ofalwyr 
maeth ychwanegol.  Mae鈥檙 ffigyrau鈥檔 awgrymu y gellid llenwi鈥檙 diffyg hwn pe bai 
ond dau y cant o bobl LHDT yn dod ymlaen i faethu neu fabwysiadu.
Mae gan Sir y Fflint dri o ofalwyr maeth LHDT ac mae鈥檔 awyddus i annog mwy o 
gyplau LHDT neu ofalwyr sengl i ddod ymlaen.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Wasanaethau 
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淵n ein profiad ni, mae gan ofalwyr maeth a mabwysiadwyr LHDT yr union sgiliau 
yr ydym yn chwilio amdanynt.  Ond yn bwysicach fyth, mae ganddynt y 
penderfyniad sy鈥檔 hanfodol i ofalu am y plant a鈥檙 bobl ifanc hyn sy鈥檔 agored i 
niwed.
鈥淩oeddem yn hynod falch fod aelodau o鈥檙 gymuned LHDT wedi dod i鈥檔 digwyddiad i 
glywed am y broses ac i siarad 芒 gofalwyr LHDT am eu profiadau.  Edrychwn 
ymlaen at eu rhoi ar ben ffordd eu siwrnai fabwysiadu neu faethu.鈥
Dyma rai o sylwadau ymwelwyr a ddaeth i鈥檙 digwyddiad:
鈥淩oedd yn ddiddorol a mewnweledol iawn ac rydym wedi cael llawer i feddwl 
amdano.鈥
鈥淢ae wedi bod yn llawn gwybodaeth, cyfeillgar, personol a chalonogol鈥.
Mae pobl ifanc sydd eisoes yn cael gofal maeth gan bobl LHDT hefyd wedi bod yn 
s么n am eu profiadau.  Meddai un ohonynt:
鈥淢ae hi鈥檔 ddynes ddoniol a gofalgar sy鈥檔 gwneud i mi deimlo鈥檔 ddiogel.  Rydw 
i鈥檔 lwcus iawn i gael byw gyda hi.  Os ydych chi鈥檔 hoyw, lesbian, deurywiol neu 
drawsrywiol ac yn meddwl maethu, peidiwch 芒 gadael i unrhyw beth eich atal.  
Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn yma ac rydw i fel un o鈥檙 
teulu, sy鈥檔 wych achos mae angen i bawb deimlo鈥檔 ddiogel ac yn hapus.鈥
Meddai unigolyn ifanc arall mewn gofal maeth:
鈥淧an gefais wybod fy mod yn mynd i aros gyda chwpl hoyw roeddwn yn teimlo鈥檔 
gyffrous a鈥檙 unig beth a oedd ar fy meddwl oedd beth fyddai fy ffrindiau yn ei 
feddwl neu yn ei ddweud ond maen nhw鈥檔 gefnogol iawn ac yn dod ymlaen 芒 nhw鈥檔 
dda iawn.  Ni ddylai pobl feirniadu cwpl hoyw, nhw yw鈥檙 bobl mwyaf anhygoel a 
gofalgar erioed.  Ni fyddwn yn newid fy amser yno am y byd.鈥
Meddai Tor Docherty, Cyfarwyddwr New Family Social, sef rhwydwaith cymdeithasol 
a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT i deuluoedd a darpar deuluoedd 
sy鈥檔 trefnu Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT:
鈥淭ra bo mwy a mwy o bobl LHDT yn dewis mabwysiadu neu faethu, mae nifer yn dal 
i ofni na fyddant yn cael croeso gan yr asiantaethau.  Mae pethau wedi symud 
ymlaen dros y chwe blynedd diwethaf ym maes mabwysiadu a maethu.  Mae ein 
cymuned fawr o deuluoedd ledled y DU yn hynod o groesawgar a chefnogol.  Mae鈥檔 
amlwg i bawb pa mor dda mae ein plant yn dod ymlaen a pha mor bositif a 
boddhaol y gall y profiad fod i rieni鈥.
Am fwy o wybodaeth am faethu a mabwysiadu edrychwch ar wefan Gwasanaeth Maethu 
Sir y Fflint www.flintshirefostering.org.uk neu www.northwalesadoption.gov.uk.
Nodyn i Olygyddion
Mae Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF) yn amcangyfrif bod angen 
cartref mabwysiadu ar 4,000 o blant ledled y DU bob blwyddyn.
Mae鈥檙 Rhwydwaith Maethu鈥檔 amcangyfrif fod angen dros 8,000 o ofalwyr maeth 
ychwanegol ledled y DU.
Trefnir Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT gan New Family Social, sef rhwydwaith 
cymdeithasol a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT ar gyfer teuluoedd 
a darpar deuluoedd.
Llun
Cynrychiolwyr o Wasanaeth Maethu Sir y Fflint, T卯m Maethu Wrecsam a Gwasanaeth 
Mabwysiadu Gogledd Cymru.