Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Etholiad Cyffredinol 7 Mai: gofalwch eich bod yn gallu pleidleisio
  		Published: 19/03/2015
Mae ymgyrch hysbysebu ar y gweill i annog pleidleiswyr i gofrestru cyn yr 
Etholiad Cyffredinol.  Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog trigolion lleol i 
edrych ar wefan www.gov.uk/register-to-vote 
Ddydd Iau, 7 Mai bydd pleidleiswyr yn mynd i鈥檙 gorsafoedd i ethol Aelodau 
Seneddol ar gyfer etholaethau seneddol Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy yn Sir y 
Fflint.
Ar ddechrau鈥檙 wythnos, lansiodd y Comisiwn Etholiadol ei ymgyrch gofrestru 
genedlaethol i atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill.  Gweler 
yr hysbyseb teledu yma.
Meddai Colin Everett, Swyddog Canlyniadau,
鈥淒ylai unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio wneud hynny cyn gynted ag 
sy鈥檔 bosibl fel nad ydynt yn colli鈥檙 cyfle i bleidleisio yn yr Etholiad 
Cyffredinol sydd ar y gorwel.
Ni allwch bleidleisio os nad ydych wedi cofrestru erbyn 20 Ebrill.  Rydym yn 
annog y rheiny sydd heb gofrestru i wneud hynny ar-lein ar 
www.gov.uk/register-to-vote.  Bydd ond yn cymryd ychydig funudau ac os ydych yn 
ansicr p鈥檜n a ydych wedi cofrestru, gallwch gysylltu 芒鈥檔 Swyddfa Etholiadol ar  
01352 702412 
Gwybodaeth gefndirol
Mewn gwaith ymchwil diweddar a gynhaliwyd gan YouGov, gwelodd y Comisiwn 
Etholiadol:
路 fod 21% o bobl sy鈥檔 rhentu鈥檔 breifat yn meddwl eu bod wedi cofrestru i 
bleidleisio fel mater o drefn am eu bod yn talu鈥檙 dreth gyngor
路 bod 40% o鈥檙 rheiny a holwyd yn meddwl nad oes modd cofrestru i bleidleisio 
ar-lein yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
路 nad yw 69% o bobl yn gwybod pryd mae鈥檙 dyddiad cau ar gyfer cofrestru i 
bleidleisio.  Mae 13% yn meddwl ei bod yn rhy hwyr iddynt gofrestru.  Pan 
roddwyd dewis o bump opsiwn iddynt, dim ond 32% a lwyddodd i ateb mai 20 Ebrill 
yw鈥檙 dyddiad cau.