Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwobr Ysgolion iach
  		Published: 23/03/2015
Mae ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog sy鈥檔 
cydnabod ei hymrwymiad i hybu iechyd a lles. Ysgol Mynydd Isa ywr bedwaredd 
ysgol yn y sir i ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach. 
Maer Wobr Ansawdd Genedlaethol yn cael ei dyfarnu i ysgolion sydd wedi 
cyrraedd y safonau uchaf o ran iechyd a lles. Er mwyn ennill y wobr hon, bydd 
rhaid i ysgolion fod wedi cymryd rhan yn y cynllun am o leiaf naw mlynedd, ac 
wedi cwmpasu a chynnal pob un or saith thema iechyd a bennwyd gan Lywodraeth 
Cymru. 
Dyma鈥檙 saith thema iechyd:
路 Bwyd a ffitrwydd 
路 Yr amgylchedd 
路 Hylendid 
路 Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol 
路 Datblygiad personol a pherthnasoedd 
路 Diogelwch 
路 Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
Maer holl staff yn Ysgol Mynydd Isa yn cymryd rhan weithredol yn y cynllun ac 
yn gwerthfawrogi pwysigrwydd iechyd a lles ar gyfer cymuned yr ysgol gyfan.
Dywedodd y Pennaeth, Mr Richard Collett:
鈥淔el ysgol, rydym yn falch iawn or gydnabyddiaeth genedlaethol hon. Mae iechyd 
a lles pawb yn ein hysgol wedi bod yn flaenoriaeth i ni a bydd yn parhau felly 
bob amser. Mae llawer iawn o waith caled wedi mynd i ennill y wobr hon a hoffwn 
ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi cymryd rhan - staff, disgyblion, rhieni a 
llywodraethwyr.鈥
Yn yr adroddiad asesu, nododd yr asesydd arweiniol, Mrs Gill Waring:
鈥淣id oes unrhyw amheuaeth bod Ysgol Mynydd Isa yn ysgol iach ac yn llawn haeddu 
ei Gwobr Ansawdd Genedlaethol. Mae iechyd a lles ar cysyniad ysgolion iach 
wedi鈥檜 hymgorfforin llawn ym mywyd a diwylliant yr ysgol. Nodwedd ragorol a 
nodwyd yn yr ymweliad asesu oedd y lefel uchel iawn o ymgysylltiad a ddangoswyd 
gan bawb syn ymwneud 芒 bywyd yr ysgol; y rhieni/gofalwyr, disgyblion, 
llywodraethwyr a鈥檙 staff. Roedd yr ymdeimlad o werth yn niwylliant yr ysgol yn 
disgleirio ac roedd hyn yn amlwg o鈥檙 gofal ar parch a ddangosodd y disgyblion 
a鈥檙 staff tuag at ei gilydd.鈥
Wrth gyflwynor wobr, dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd 
Glenys Diskin:
鈥淢ae鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol yn gofyn i ysgolion ddangos eu bod wedi 
ymrwymon gadarn i ddatblygur ysgol gyfan fel lleoliad syn hybu iechyd. 
Ystyrir bod yr ysgolion syn ennill y wobr lefel uchel hon yn rhagorol, felly 
mae hyn wedi bod yn gyflawniad gwych a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: 
鈥淟longyfarchiadau i bawb yn yr ysgol.  Maer wobr a chael cydnabyddiaeth o 
Ysgol Iach yn haeddiannol a dylair ysgol fod yn falch iawn or cyflawniad.鈥
Lluniau
8770 - cyflwyniad i ddisgyblion ysgol fabanod Ysgol Mynydd Isa 鈥 o鈥檙 chwith ir 
dde - Y Cyng Glenys Diskin, Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint) Claire Broad, 
Cadeirydd y Llywodraethwyr - Andy Davies, y Cynghorydd Chris Bithell, Emma 
Curtis (Dirprwy Bennaeth - Babanod)
8741 - cyflwyniad i ddisgyblion iau Ysgol Mynydd Isa 鈥 o鈥檙 chwith ir dde - Y 
Cyng Glenys Diskin, Claire Broad, Sian Salisbury (Dirprwy Bennaeth 鈥 Adran 
Iau), Cadeirydd y Llywodraethwyr - Andy Davies, y Cynghorydd Chris Bithell, 
Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint).