Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweithio mewn partneriaeth i greu cyfleoedd gwaith i bobl leol
  		Published: 26/03/2015
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a busnesau lleol, Delyn Safety a Jackson
Fire and Security, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwaith a 
chyfleoedd hyfforddiant i bobl leol.
Cafodd y bartneriaeth ei sefydlu drwy raglen Esgyn, sef cynllun uchelgeisiol 
gan  Lywodraeth Cymru i greu 5,000 o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant, erbyn 
diwedd 2017, i bobl ar hyd a lled Cymru  syn byw mewn cartrefi lle nad oes neb 
yn gweithio.
Nid rhaglen ar gyfer pobl sy鈥檔 ddi-waith dros dro yw hon, ond ar gyfer pobl 
sy鈥檔 ddi-waith ers dros chwe mis. Dyma鈥檙 rhai sy鈥檔 ei chael yn anoddach cael 
hyd i waith, ac maent yn cynnwys rhieni sengl, oedolion heb ddim, neu prin ddim 
cymwysterau ffurfiol, pobl 芒 record wael o ran gwaith a phobl anabl. Mae gwaith 
ymchwil yn dangos bod pobl sy鈥檔 byw mewn cartrefi sydd 芒鈥檙 nodweddion hyn yn 
llawer llai tebygol o gael hyd i waith na neb arall.
Mae Darrell Griffiths wedi bod yn ddiwaith am dros 12 mis a chafodd gyfle i 
gael profiad gwaith am chwe wythnos gyda Delyn Safety UK Ltd yn yr Wyddgrug.
Aeth y Cynghorydd Derek Butler i Delyn Safety yn ddiweddar i  gyfarfod 芒 
Darrell a鈥檙 t卯m, ac i gyflwyno  tystysgrif i Darrell am yr hyn y mae wedi鈥檌 
gyflawni. Dywedodd: 
鈥淢ae hwn yn  gynllun gwych gan Lywodraeth Cymru ac mae鈥檙 Cyngor yn fwy na 
bodlon ei gefnogi - mae sicrhau gwaith a hyfforddiant i bobl yn un o 
flaenoriaethau allweddol y Cyngor. Un o鈥檙 prosiectau peilot oedd hwn, o 
safbwynt y busnes a th卯m Esgyn, ac mae鈥檙 bartneriaeth yn cryfhau o hyd.鈥
Meddai Mike Joy o Delyn Safety:
鈥淢ae Delyn Safety UK Ltd wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o raglen Esgyn a 
hoffem gefnogi鈥檙 prosiect eto yn y dyfodol. Gobeithio bod Darrell wedi dysgu am 
ffyrdd newydd o weithio a bod ei ragolygon o ran cael hyd i waith wedi gwella.鈥
Dywedodd Darrell Griffiths:
鈥淢ae dirfawr angen rhaglen Esgyn yn y gymuned i helpu鈥檙 rhai sy鈥檔 ddiwaith ers 
cyfnod maith i  ddysgu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen arnynt. Dim ond drwy gael 
profiadau gwaith y mae gwneud hyn, a llwyddo i gael  hyd i waith. Mi wnes i 
fwynhau fy mhrofiad gwaith i鈥檔 arw, dysgais sgiliau newydd ac mae hynny鈥檔 gam 
ymlaen yn fy ymdrech i gael gwaith.鈥
Pennawd:
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Steve Hand, Lydia Gent (Jackson Fire and Security), Teresa 
Allen (Cymunedau  yn Gyntaf), Darrell Griffiths (gyda鈥檌 dystysgrif), y 
Cynghorydd Derek Butler a Mike Joy (Delyn Safety).