Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Polisi Torri Gwair y Cyngor 
  		Published: 09/03/2015
Yr wythnos hon (yn dechrau ddydd Llun 9 Mawrth) bydd y Cynghorwyr yn trafod y 
newidiadau i Bolisi Torri Gwair y Cyngor Sir.
Maer newidiadau yn rhan o鈥檙 mesurau arbed arian syn cael eu cyflwyno fel rhan 
o her y Cyngor Sir i ddod o hyd i dros 拢18 miliwn o arbedion yn y flwyddyn 
ariannol sydd i ddod.
Mae gan y Sir gyfrifoldeb cyfreithiol i reolir Rhwydwaith Priffyrdd o ran cadw 
llwybrau yn hygyrch ac yn ddiogel i ddefnyddwyr.
Dan y polisi drafft diwygiedig, ni fydd y safonau cyfredol ar gyfer ymylon 
gwair trefol yn newid. Mewn lleoliadau gwledig, bydd lleiniau gwelededd yn 
parhau i gael eu torri pedair gwaith y flwyddyn. Maer newidiadau ir polisi yn 
ymwneud ag ymylon ffyrdd gwledig, sef:
 - Bydd ymylon ffyrdd gwledig nad ydynt yn lleiniau gwelededd yn cael eu torri 
unwaith y flwyddyn, yn lle dwywaith (byddwn yn ceisio gwneud hyn fis Mehefin, 
yn dibynnu ar y tywydd). Bydd y prif ffyrdd yn cael eu torri unwaith y 
flwyddyn, yn hytrach na dwywaith, i ddwy ystod o led (tua dwy fetr). Bydd pob 
ffordd wledig fach a di-ddosbarth yn cael ei thorri i un ystod o led (tua un 
metr), unwaith y flwyddyn, yn hytrach na dwywaith. 
 - Mewn ardaloedd gwledig, bydd ymylon yn cael eu torri鈥檔 么l i reoli chwyn a 
choed ifanc pob chwe blynedd yn hytrach na bob tair. 
- Yn ystod y tair blynedd nesaf, mae cynlluniau hefyd i dendro a chynnal prawf 
marchnad ar y gwasanaeth torri gwair, er mwyn lleihau costau llogi peiriannau 
ac offer arbenigol ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn gost effeithiol.
Disgwylir ir newidiadau hyn arwain at arbedion o 拢75,000 y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd:
鈥淢aer Polisi Torri Gwair yn cael ei adolygu fel rhan on her i wneud arbedion 
ar draws y Cyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a chytunwyd ar y 
diwygiadau fel rhan or cynigion ar gyfer y gyllideb.
鈥淢ae gadael i鈥檙 gwair dyfu鈥檔 hirach hefyd yn beth da ar gyfer bioamrywiaeth, ac 
yn golygu bod y gweiriau ar blodau gwyllt yn gallu blodeuo a hadu, gan 
adeiladu banc hadau mwy amrywiol yn y pridd.
鈥淔el rhan or broses graffu, ddechrau鈥檙 wythnos hon byddwn yn trafod y 
newidiadau i鈥檙 polisi mewn gweithdai gyda chynghorwyr sir, tref a chymuned. Yn 
dilyn hyn, bydd y polisi diwygiedig terfynol yn amodol ar gymeradwyaeth y 
Cabinet ym mis Ebrill 2015.鈥