Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ymgynghori â thrigolion Sir y Fflint ynglyn â meysydd parcio
  		Published: 09/03/2015
Mae mesurau parcio a gorfodi yn allweddol er mwyn rheoli rhwydwaith priffyrdd 
effeithiol a chynorthwyo i osgoi tagfeydd.  Er mwyn cynnal hyfywedd a 
bywiogrwydd cymuned / tref mae鈥檔 hanfodol rheolir defnydd o barcio oddi ar y 
stryd yn effeithiol.   
Mae鈥檙 Awdurdod yn dymuno darparu dull cyson ar gyfer parcio oddi ar y stryd 
trwy ehangu gofodau talu ac arddangos fydd yn cael ei addasu i ddiwallu 
anghenion yr holl gymunedau lleol sy鈥檔 cynnig darpariaeth parcio ceir gyda 40 
gofod neu fwy.  
Trwy osod strwythur prisio a chostau effeithiol, mae codi t芒l wedi profi i fod 
yn ddull o annog cymudwyr i ddefnyddio鈥檙 meysydd parcio ar ymylon y dref a 
chanolfannau cymunedol, ac yn hyrwyddo gofodau sy鈥檔 agos at ganol trefi ar 
gyfer siopwyr ac ymwelwyr arhosiad byr i gefnogi hyfywedd masnachol.   
Mae cyfanswm o ddeg strategaeth leol yn cael eu datblygu ar gyfer 44 maes 
parcio.  Mae鈥檙 rhain yn berthnasol yn ardaloedd canlynol y Sir:
Fflint
Treffynnon
Yr Wyddgrug
Bwcle  
Cei Connah
Queensferry
Shotton
Caergwrle
Penarl芒g
Talacre
 Bydd pob strategaeth leol yn ceisio blaenoriaethu anghenion pobl anabl, 
preswylwyr lleol, busnesau a鈥檜 cwsmeriaid, a hyrwyddo dulliau teithio 
cynaliadwy trwy argaeledd a phrisiau effeithiol gofodau parcio. 
Bydd cynllun trwydded parcio yn y gweithle hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer 
ardaloedd parcio i weithwyr yn yr Wyddgrug (Neuadd y Sir) a Fflint.  Mae鈥檙 
rhain yn feysydd parcio dynodedig o fewn y trefniadau rheoli Meysydd Parcio 
lleol a bydd angen trwyddedau ar gyfer gweithwyr a Chynghorwyr sy鈥檔 gweithio ac 
yn ymweld 芒r adeiladau hyn yn rheolaidd. 
Gellir canfod manylion llawn y strategaethau hyn, gan gynnwys y costau 
arfaethedig, ar wefan y Cyngor, ynghyd 芒 dolen i鈥檙 arolwg.  
Gwahoddir trigolion Sir y Fflint i rannu eu safbwyntiau ar y cynigion i godi 
t芒l ar gyfer parcio mewn meysydd parcio yng nghymunedau a threfi鈥檙 sir. 
Mae ymgynghoriad yn awr wedi dechrau, gyda Chynghorwyr Sir, Tref a Chymuned ac 
o heddiw (Dydd Llun 9 Mawrth), gwahoddir aelodau鈥檙 cyhoedd i rannu eu 
safbwyntiau ar agweddau o鈥檙 strategaeth newydd.  Gellir canfod manylion yr 
ymgynghoriad ar wefan y Cyngor hefyd.   
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar 
Dirprwy Arweinydd:
鈥淢ae adolygu prisiau meysydd parcio yn un o鈥檙 cynigion sy鈥檔 cael ei ystyried 
fel rhan o鈥檔 her i ganfod arbedion effeithlonrwydd o 拢18+m yn y flwyddyn 
ariannol sydd i ddod.  Cytunwyd ar y cynnig i godi t芒l am barcio mewn meysydd 
parcio ledled y Sir fel rhan o鈥檙 cynigion i osod y gyllideb.  
Mae鈥檙 broses ymgynghori yn awr wedi dechrau ac mae gan yr unigolion hyd at 29 
Mawrth i leisio eu barn, cyn i Gabinet y Cyngor ystyried adroddiad ynglyn 芒鈥檙 
strategaeth parcio ceir ym mis Ebrill 2015.鈥