Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Polisi Goleuadau Stryd y Cyngor
  		Published: 09/03/2015
Yr wythnos hon (yn dechrau dydd Llun 9 Mawrth) bydd y Cynghorwyr yn trafod 
polisi goleuadau stryd diwygiedig, sy鈥檔 ceisio darparu鈥檙 gwasanaeth mwyaf cost 
effeithiol ac effeithlon a lleihau 么l-troed carbon y Cyngor. 
Mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen ar, ac yn cynnal a chadw, dros 21,000 o 
oleuadau stryd a 3,250 o arwyddion goleuedig ar draws y sir. Mae hefyd yn 
cynnal goleuadau cefnffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, maer holl unedau hyn yn defnyddio gwerth 拢864,000 o drydan y 
flwyddyn. 
Maer gwasanaeth goleuadau stryd wedi ymrwymo i leihau ei 么l troed carbon drwy 
roi ystod o fesurau ar waith, gan gynnwys gosod cyfarpar arbed ynni ac unedau 
goleuo ynni isel pan fo angen newid y goleuadau. 
Bydd y polisi drafft diwygiedig yn ymestyn y mesur diffodd goleuadau stryd yn y 
nos - gyda chynigion i ddiffodd goleuadau stryd mewn ardaloedd dibreswyl 
penodol rhwng hanner nos a 5am ac mewn ardaloedd preswyl penodol rhwng hanner 
nos a 6am.
Bydd amseroedd ymateb safonol ar gyfer atgyweirio goleuadau stryd Cyngor Sir y 
Fflint yn newid i 10 diwrnod gwaith. Yr eithriad i hyn yw lleoliadau sydd wedi 
eu hasesu fel ardaloedd diamddiffyn (er enghraifft safleoedd tai gwarchod, 
teledu cylch cyfyng a safleoedd critigol diffiniedig eraill), lle bydd yr amser 
safonol yn parhau鈥檔 dri diwrnod gwaith. 
Yn ogystal 芒 darparu effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon, 
disgwylir i鈥檙 mesurau hyn arbed 拢50,000 y flwyddyn ar 么l eu rhoi ar waith yn 
llawn. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd:
鈥淣od cyffredinol polisi goleuadau stryd y Cyngor yw rheoli a chynnal rhwydwaith 
goleuadau stryd diogel ac effeithlon syn sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr y 
ffyrdd, cerddwyr a beicwyr. Mae hefyd yn cydnabod bod rhwydwaith goleuadau 
stryd effeithlon yn un or ffyrdd y gall y Cyngor chwarae rhan bwysig i leihau 
troseddau, gwella ymddygiad gyrwyr a hyrwyddo cymuned ddiogelach. 
鈥淢aer polisi yn cael ei adolygu fel rhan on her i ganfod arbedion ar draws y 
Cyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a chytunwyd ar y cynlluniau i leihau 
adnoddau goleuadau stryd a chyflwyno goleuadau stryd rhannol yn y nos fel rhan 
o鈥檙 cynigion ar gyfer y gyllideb.
Fel rhan or broses graffu, bydd cynghorwyr sir, tref a chymuned yn trafod y 
diwygiadau mewn gweithdai ddechrau鈥檙 wythnos. Bydd y polisi diwygiedig yn 
amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet ym mis Ebrill 2015.