Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cylchfan Queensferry 
  		Published: 05/03/2015
Bydd Cyngor Sir y Fflint cyn bo hir yn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru drwyr 
Gronfa Trafnidiaeth Lleol ar gyfer cynllun i wella Cylchfan Queensferry a 
chyffordd goleuadau traffig Asda gerllaw, sydd ar hyn o bryd yn arwain at oedi 
hir yn ystod cyfnodau prysur.
Bydd y cynnig hwn yn ategu cynllun Cydamseru Goleuadau Traffig Coridor Glannau 
Dyfrdwy a gwblhawyd yn ddiweddar ac sydd wedi gwella llif trafnidiaeth yn 
sylweddol ar hyd Coridor Glannau Dyfrdwy鈥檙 A548. Bydd datblygiadau yn ardal 
Glannau Dyfrdwy, fel Datblygiad Porth y Gogledd, yn cynyddu llif trafnidiaeth y 
gyffordd bwysig hon ymhellach, gan roi straen ychwanegol ar y rhwydwaith ac 
arwain at oedi anochel i ddefnyddwyr y ffordd. Mae arolwg ac astudiaeth 
ddichonoldeb lawn wedi ei chynnal syn argymell ail-lunio鈥檙 cynlluniau 
presennol er mwyn darparu gallu ychwanegol i ddelio 芒r gofynion traffig 
presennol ar gofynion yn y dyfodol
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd:
 鈥淢aer cynllun hwn wedi ei nodi fel blaenoriaeth ar gyfer Cyngor Sir y Fflint 
yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a gyflwynwyd yn ddiweddar yng ngogledd Cymru, 
ac rydw i鈥檔 gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogir cais a chydnabod bod gwella鈥檙 
gyffordd allweddol hon yn hanfodol i gryfhau rhwydwaith priffyrdd un o byrth 
allweddol gogledd Cymru ac un a fydd yn cefnogi鈥檙 twf economaidd a ragwelir yn 
yr ardal hon鈥.