Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Hen safleoedd tirlenwi yn cynhyrchu incwm sylweddol ir Cyngor Sir
  		Published: 04/03/2015
Mae dau safle tirlenwi ym Mwcle wedi cynhyrchu incwm o dros 拢400,000 i Gyngor 
Sir y Fflint mewn cyfnod o ddeuddeg mis.
Caiff nwy methan ei gynhyrchu ar safle tirlenwi Brookhill a Standard wrth i鈥檙 
gwastraff a adawyd yno  bydru drwy broses dadelfennu biolegol anerobig. Caiff y 
nwy ei droi鈥檔 drydan gan beiriannau cynhyrchu trydan sy鈥檔 defnyddio nwy fel 
tanwydd, ac oddi yno, caiff y nwy ei fesur a鈥檌 ddosbarthu ar foltedd uchel 
(11,000 folt) i鈥檙 Grid Cenedlaethol.
Yna, caiff yr ynni ei werthu mewn arwerthiant drwy鈥檙 Non Fossil Purchasing 
Agency
yn 么l prisiau cyfredol trydan ar y farchnad, gan ddefnyddio cytundebau chwe mis 
a gymeradwyir gan y diwydiant.
Yn ystod 2014, cynhyrchwyd cyfanswm o 4,300 megawat o drydan ar y ddau safle - 
sy鈥檔 ddigon i  gyflenwi trydan i tua 1,700 o gartrefi bob blwyddyn.
Cynhyrchwyd incwm o oddeutu 拢440,000 o鈥檙 nwy methan, sy鈥檔 creu ffrwd refeniw y 
mae ei ddirfawr angen ar y Cyngor Sir.
Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gynhyrchu rhagor o ynni, gyda鈥檙 posibilrwydd 
o  osod paneli solar ar y ddau safle tirlenwi. Mae disgwyl y byddai鈥檙 paneli PV 
greu rhagor o ynni i鈥檞 werthu i鈥檙 Grid Cenedlaethol, gan greu incwm o 拢50,000 y 
flwyddyn. Gallai hefyd fod yn gyfle i鈥檙 Cyngor greu ei gyflenwad ynni 
adnewyddadwy ei hun ar gyfer ei fflyd o gerbydau .
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Strategaeth Gwastraff, 
Diogelu鈥檙 Cyhoedd a Hamdden
鈥淎r adeg pan fo鈥檙 Cyngor Sir yn wynebu toriadau llymach nag a welwyd erioed o鈥檙 
blaen, rydym yn croesawu鈥檙 newyddion fod dau o鈥檔 cyn safleoedd tirlenwi鈥檔 
cynhyrchu gymaint o incwm i鈥檙 awdurdod lleol - arian y gallwn ei ddefnyddio i 
wrthbwyso鈥檙 toriadau sy鈥檔 ein  hwynebu.
鈥淢ae鈥檙 ynni adnewyddadwy y mae鈥檙 Cyngor yn ei ddefnyddio hefyd yn helpu i 
gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni o ffynonellau  ynni 
gwyrdd ac mae hefyd yn helpu i gadw at safonau ansawdd aer cenedlaethol.鈥