Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Pythefnos Masnach Deg yn Sir y Fflint
  		Published: 05/03/2015
Fel rhan o bythefnos Masnach Deg, rhwng 23 Chwefror ac 8
Mawrth, mae Sir y Fflint yn dathlu deng mlynedd ers sicrhau statws Sir Masnach 
Deg.
Ym mis Rhagfyr 2003, cefnogodd Pwyllgor Gweithredol Cyngor Sir y Fflint 
benderfyniad grwp o bobl i geisio sicrhau statws Masnach Deg i Sir y Fflint. 
Eleni, bydd degawd wedi mynd heibio ers i鈥檙 sir ennill聽 statws Masnach Deg, 
statws y mae angen ei hadnewyddu bob dwy flynedd. 
Dyfarnwyd statws Masnach Deg i Gynghrair Masnach Deg Sir y Fflint am hyrwyddo 
cynnyrch a brynir yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr mewn gwledydd sy鈥檔 datblygu. 
聽Maer Cyngor Sir yn rhan o鈥檙 Gynghrair honno ac mae鈥檔 gweini te a choffi 
Masnach Deg ym mhob un o鈥檌 gyfarfodydd.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin:
Mae Cynghrair Sir y Fflint yn annog pawb i gefnogi Masnach Deg ac i werthu neu 
weini cynnyrch Masnach Deg. Nid elusen yw Masnach Deg, yn hytrach mae鈥檔 
caniat谩u i bobl helpu eu hunain drwy gael pris teg a rhesymol am eu cynnyrch.聽 
Maer cynhyrchion o safon uchel, ac maent ar gael yn y rhan fwyaf o siopau鈥檙 
Stryd Faw. Maent yn cynnwys te, siwgr, coffi, siocled, gwin a bananas.
Mae marc Masnach Deg ar gynnyrch yn gwarantu:
-y bydd ffermwyr yn cael pris teg a sefydlog am eu cynnyrch syn helpu i 
liniaru tlodi
-incwm ychwanegol i ffermwyr a gweithwyr ar blanhigfeydd i wella鈥檜 bywydau drwy 
ddarparu cyflenwadau dwr ac ysgolion i blant 
- mwy o barch ir amgylchedd - mae llawer o鈥檙 cynhyrchion yn cael eu tyfu drwy 
ddefnyddio dulliau organig
-y bydd ffermwyr mewn sefyllfa gryfach ym marchnadoedd y byd gan fod y rhaglen 
yn eu helpu nhw i helpu eu hunain 
-na fydd yr un plentyn wedii orfodi i weithio i greur cynnyrch