Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Plannu gwrychoedd yn ardal addysg newydd Parc Gwepra 
  		Published: 10/03/2015
?Mae gwaith yn prysuro i ddatblygu ardal addysg ym Mharc Gwepra yng Nghei 
Connah.
Yn ddiweddar, bu Ceidwaid o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, gwirfoddolwyr a 
chyfeillion Parc Gwepra yn cymryd rhan mewn digwyddiad i blannu gwrychoedd, i 
blannu 100 metr o wrych yn rhan o鈥檙 prosiect.
Derbyniodd Cyfeillion Parc Gwepra a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint 拢17,000 
yn ddiweddar o fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi mudiadau 
cymunedol a grwpiau gwirfoddol i wella ansawdd eu hamgylchedd lleol. Maer 
prosiect yn ailddatblygu rhan o hen gwrs golff i ddarparu man amgaeedig yn 
arbennig at ddefnydd addysgol. Bydd yn cynnwys d么l, pwll a gwlyptir, adran 
addysgu wedi鈥檌 godi oddi ar y llawr gyda seddi, a hwyl cynfas i ochel rhag y 
tywydd.
Bydd gan y pwll newydd ei chreu, blatfform ymdrochi er mwyn i bobl ag 
anableddau allu cael mynediad. Bydd planhigion pwll gwlyptir yn cael eu plannu 
o amgylch y pwll i ddenu gweision y neidr ac anifeiliaid di-asgwrn cefn pwll 
eraill.
Bydd yr ardal chwarae bresennol yn cael ei wella hefyd, ac fe osodir ffens a 
gwrych.
Dywedodd Mike Goodall, Cadeirydd Cyfeillion Parc Gwepra:
Roeddem yn falch iawn o gymryd rhan yn y digwyddiad plannu gwrych yn yr ardal 
addysg newydd ym Mharc Gwepra. Cafodd tua 100 metr o wrychoedd newydd eu plannu 
gydag amrywiaeth o rywogaethau yn cael eu dewis am eu heffaith bio amrywiaeth 
cadarnhaol. Nid gwarchod yr ardal yn unig y bydd y gwrych, ond bydd yn darparu 
lloches a bwyd ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, yn enwedig yn yr hydref. 
Maen hanfodol ein bod yn darparu ac yn datblygu ardaloedd or fath er mwyn 
annog pobl ifanc i gymryd diddordeb gweithgar yn eu hamgylchedd a dysgu am 
bwysigrwydd cadwraeth. 
Diolch yn fawr i Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint am lwyfannu digwyddiad mor 
wych.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd: 
鈥淏ydd hwn yn gyfleuster gwych i Barc Gwepra ar 么l ei gwblhau. Dwi鈥檔 arbennig o 
falch bod ardal annatblygedig or parc yn cael ei wella fel hyn. Bydd yr ardal 
yn edrych yn wych pan gaiff ei orffen ac rwy鈥檔 sicr y bydd yn cael ei 
ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Stephen Lewis, Ceidwad Cefn Gwlad ar gyfer Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y 
Fflint, syn cyflwynor prosiect:
鈥淢aer ardal addysg yn mynd i ddarparu man amgaeedig lle bydd modd i blant ac 
oedolion ddysgu am amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ac ecosystemau drwy ein 
rhaglenni digwyddiadau dan arweiniad ceidwaid. Rydym yn disgwyl y bydd yn barod 
erbyn mis Ebrill.鈥 
Mae gwybodaeth am Barc Gwepra ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/cefngwlad lle 
gallwch hefyd ddod o hyd i ddolen i dudalen Facebook Cyfeillion Parc Gwepra.
Lluniau
Geiriad yn 0017, Chwith ir Dde: Stephen Lewis (CSFf), Neil Dudley 
(Gwirfoddolwr), Phil Rodgers (Gwirfoddolwr), Mike Goodall (Cadeirydd, 
Cyfeillion Parch Gwepra), Julie Gallagher (Ysgrifennydd, Cyfeillion Parc 
Gwepra), Tim Johnson (CSFf).