Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Darganfod Llwyni - taflen newydd sy鈥檔 adrodd hanes gwarchodfa natur unigryw
  		Published: 05/03/2015
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi creu taflen newydd i arddangos 
Gwarchodfa Natur Llwyni, rhwng Ewlo a Chei Connah.
Maer daflen yn tynnu sylw at y warchodfa unigryw hon, lle mae pobl a bywyd 
gwyllt yn byw ac yn ffynnu ochr yn ochr.
Mae preswylwyr, datblygwyr lleol, grwp bywyd gwyllt lleol NEWwildlife a 
Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor Sir wedi bod yn cydweithio ers y 1980au i 
sicrhau bod pob cam newydd o ddatblygiad yn yr ardal yn ystyriol o fywyd gwyllt.
Yn 2000 daeth Llwyni yn Warchodfa Natur Leol oherwydd ei gwerth i fywyd gwyllt, 
pobl ac addysg. Maer warchodfa wedi ei diogelu fel rhan o Safle o Ddiddordeb 
Gwyddonol Arbennig Pyllau a Choetiroedd Cei Connah. Mae hefyd yn rhan o Safle 
Ardal Gadwraeth Arbennig Madfallod Glannau Dyfrdwy a Bwcle.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy 
Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢aer ffaith bod bywyd gwyllt yn ffynnu yng Ngwarchodfa Natur Llwyni heddiw yn 
dyst i waith partneriaeth y preswylwyr, y datblygwyr lleol a Gwasanaeth Cefn 
Gwlad y Cyngor Sir. Rydw i鈥檔 annog pobl i ddod draw a mwynhau鈥檙 ardal, lle mae 
pyllau newydd wedi eu creu a lle fedrwch chi weld dolydd llawn blodau a 
pherllan gymunedol arbennig. Mae angen diolch yn arbennig i鈥檙 canlynol am 
gynhyrchu鈥檙 daflen - Pip Perry, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd Llwyni; 
tirfeddianwyr lleol, gan gynnwys Ian Roberts sydd wedi helpu Stephen Lewis, 
Ceidwad Cefn Gwlad, gyda鈥檙 gwaith ymchwil; NEWwildlife; ac i David Wilson Homes 
am noddir daflen yn rhannol a chynnal y lansiad.
Dywedodd Pip Perry, a chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu gwarchodfeydd natur 
ddiwedd yr 80au a dechrau鈥檙 90au ac sy鈥檔 cadeirio Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd 
Llwyni: 
鈥淪efydlwyd Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd Llwyni gan Gyngor Sir y Fflint yn 2000, i 
weithio gyda pherchnogion tir, cyrff statudol a gwirfoddol, preswylwyr lleol a 
datblygwyr i weithredu鈥檙 strategaeth ar gyfer Llwyni. Rydw i鈥檔 hapus iawn bod 
datblygiad diweddaraf David Wilson Homes wedi cynnwys creu llwybrau troed i 
drigolion ac ymwelwyr a gwella cynefin bywyd gwyllt.
Dywedodd Steve Jackson, Cyfarwyddwr Gwerthiant David Wilson Homes North West:
鈥淢ae David Wilson Homes yn falch iawn o gefnogi Gwarchodfa Natur Llwyni a 
hyrwyddo golygfeydd prydferth Cei Connah. Fel adeiladwyr cynaliadwy a 
chydwybodol, rydym ni鈥檔 deall y pwyslais syn cael ei roi ar fywyd gwyllt a鈥檙 
amgylchedd naturiol. Rydym ni bob amser yn ceisio annog perchnogion ein tai i 
barchu鈥檙 amgylchedd, drwy weithredu cynlluniau fel yr un yma mewn cymunedau 
lleol a thrwy weithio 芒鈥檙 RSPB a Chymdeithas Gwenynwyr Prydain yn 
genedlaethol.  Mae Wepra Green wedi ei hen sefydlu yn y gymuned bellach ac 
roeddem ni鈥檔 falch o dderbyn y cynnig i gymryd rhan.鈥
I gael mwy o wybodaeth am yr achosion da y mae cynllun Our Space, Your Place 
David Wilson Homes North West wedi eu cefnogi, neu i wneud cais am gyllid, ewch 
i www.ourspaceyourplace.co.uk.