Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Chwifio Baner y Gymanwlad a Chreu Hanes
  		Published: 06/03/2015
Ddydd Llun 9 Mawrth, Diwrnod y Gymanwlad 2015, bydd mwy na 730 o faneri鈥檙 
Gymanwlad yn cael eu codi ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys 
Manaw, Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig, a gwledydd y Gymanwlad.
Bydd Penaethiaid Gwladol a Phrif Weinidogion; Arglwyddi Maer a Meiri; Cynghorau 
Tref ac Awdurdodau Lleol; plant ysgol a myfyrwyr coleg; aelodau Girlguiding a 
Sgowtiaid o bob cwr or Deyrnas Unedig ar Gymanwlad; Cadetiaid M么r, Byddin ac 
Awyr; elusennau a grwpiau cymunedol; Cyn-Filwyr y Gymanwlad a llinellau llongau 
mawr, a llawer o bobl eraill ar draws y byd yn ymuno i godi mwy na 730 o 
faneri鈥檙 Gymanwlad am 10am ddydd Llun 9 Mawrth 2015 i ddathlu鈥檙 teulu anhygoel 
hwn sy鈥檔 cylchynu鈥檙 byd.
Bydd Datganiad y Gymanwlad, wedi ei ysgrifennu鈥檔 arbennig gan y Frenhines, yn 
cael ei ddarllen yn uchel ym mhob seremoni cyn codi baner y Gymanwlad am 10am. 
Yn Sir y Fflint, bydd y Datganiad yn cael ei ddarllen gan y Dirprwy Arglwydd 
Raglaw Clwyd, Philip Eyton-Jones.
Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd 
Glenys Diskin. Meddair Cynghorydd Glenys Diskin:
鈥淢ae codi Baner y Gymanwlad ar ran Cyngor Sir y Fflint ar Ddiwrnod y Gymanwlad 
yn anrhydedd i mi. Rydw i鈥檔 siwr y bydd y fenter hon, sy鈥檔 uno cymunedau mewn 
un digwyddiad lle bydd y faner yn cael ei chodi gan bawb ar yr un pryd, yn codi 
ymwybyddiaeth pobl or Gymanwlad ar hyn y maen ei gynrychioli i bawb, boed 
trwy sefydliadau lleol, cenedlaethol neu elusennol.
Maer fenter unigryw hon, sy鈥檔 cael ei chynnal am yr ail flwyddyn, yn dal 
dychymyg miloedd o gyfranogwyr o bob cefndir ac yn eu hysbrydoli i ymuno ag 
eraill ar draws y Gymanwlad. Fel mynegiant cyhoeddus ar y cyd o ymrwymiad ir 
Gymanwlad, maen galluogi cyfranogwyr i ddangos eu gwerthfawrogiad o werthoedd 
y Gymanwlad, ar cyfleoedd a gynigir ar gyfer cyfeillgarwch a chydweithredu 
gyda chyd-ddinasyddion y Gymanwlad o amgylch y byd.
Bydd neges bersonol gan Ei Ardderchowgrwydd Kamalesh Sharma, Ysgrifennydd 
Cyffredinol y Gymanwlad yn cael ei darllen yn uchel ym mhob seremoni. Mewn 
gweithred gyffredin gyda thystion o amgylch y byd, bydd aelodaur teulu hwn yn 
ailddatgan ymrwymiad holl aelod-wladwriaethau鈥檙 Gymanwlad i ddemocratiaeth, 
datblygu, a pharch at amrywiaeth.
Mewn partneriaeth ryngwladol llawn dychymyg, bydd timau elusennol Fields of 
Life, elusen syn cysylltu Gogledd Iwerddon ac Uganda, yn nodir diwrnod drwy 
fynd 芒 Baner y Gymanwlad i gopaon y pedwar mynydd uchaf yn y Deyrnas Unedig: yr 
Wyddfa yng Nghymru; Scafell Pike yn Lloegr; Ben Nevis yn yr Alban; a Slieve 
Donard yng Ngogledd Iwerddon. Byddant hefyd yn codir faner mewn pum ysgol, un 
ym mhob un o bum Rhanbarth Uganda.
Bydd yr ymdrechion hyn yn codi arian ac ymwybyddiaeth or achos teilwng.
Dywedodd Bruno Peek, LVO, OBE OPR, Meistr Pasiant 鈥楥hwifio Baner dros y 
Gymanwlad鈥: 鈥淩ydw i wedi synnu ar ba mor gyflym y mae鈥檙 digwyddiad hwn wedi dal 
dychymyg y cyhoedd mewn cymaint o wledydd y Gymanwlad. Dyma鈥檙 ail flwyddyn ac 
mae nifer y bobl, o bob lliw a llun, sy鈥檔 cymryd rhan yn dangos potensial 
enfawr y prosiect hwn a鈥檙 Gymanwlad. Maen codi ysbryd pobl ac yn ffordd 
gadarnhaol i bobl gysylltu 芒 chyd-ddinasyddion y Gymanwlad mewn teulu syn 
pontio ar draws cefnforoedd a chyfandiroedd. Mae gwir ymdeimlad o addewid a 
gobaith ar gyfer y dyfodol. Rydw i鈥檔 arbennig o falch bod Doodle, cwmni newydd 
yn y Deyrnas Unedig, wedi ymuno a鈥檙 prosiect hwn fel noddwr y Polyn Baner a 
Baner y Gymanwlad fydd yn cael eu gosod y tu allan i ddrws gorllewinol 
mawreddog Abaty San Steffan, Llundain. Bydd y faner hon yn cael ei chodi cyn 
dechrau Cadwraeth y Gymanwlad y diwrnod hwnnw.鈥
Dywedodd Ei Ardderchowgrwydd Kamalesh Sharma, Ysgrifennydd Cyffredinol y 
Gymanwlad: 鈥淢ae Chwifio Baner dros y Gymanwlad yn ffordd ddychmygus i bobl mewn 
cymunedau lleol - ble bynnag y maent yn byw, dysgu neu weithio - i ymuno 芒i 
gilydd a chydag eraill ar draws y Gymanwlad mewn ysbryd o barch a dealltwriaeth 
i ddathlu amrywiaeth ein teulu byd-eang. Rydw i鈥檔 ei groesawu ac yn ei ganmol.鈥
鈥淕all ein holl ddinasyddion, yn enwedig pobl ifanc, fynegi eu gwerthfawrogiad 
o鈥檙 Gymanwlad ar gwerthoedd y maen eu harfer fel y nodir yn Siarter y 
Gymanwlad, ar cyfleoedd cyfoethog maen ei gynnig i gefnogi cynhwysiad 
cymdeithasol a chynnydd economaidd.鈥 
NODYN I OLYGYDDION
Bruno Peek LVO OBE OPR Meistr Pasiant Chwifio Baner Dros y Gymanwlad, ff么n: 
07737 262 913 E-bost: pageantmaster@mac.com
Ysgrifennydd y Gymanwlad 
David Banks 鈥 Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus yr Ysgrifennydd Cyffredinol  
Ff么n: 0207 747 6130 - 07770 400 031 E-bost: d.banks@commonwealth.int