Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun newid ynni - peidiwch â methur cyfle!
  		Published: 26/02/2015
Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu hannog i ymuno 芒 chynllun prynu ynni ar y 
cyd ar gyfer Cymru gyfan, a ddylai eu galluogi i arbed arian ar eu biliau 
tanwydd.
Mae Cyd Cymru / Wales Together yn brosiect newid ynni a ariennir gan Lywodraeth 
Cymru. 
Newid ynni cyfunol yw pan mae nifer fawr o gartrefi yn dod at ei gilydd i brynu 
eu hynni, a thrwy wneud hynny gall Cyd Cymru / Wales Together drafod gwell 
bargeinion, syn arwain at arbedion i ddefnyddwyr. Po fwyaf o bobl syn cymryd 
rhan, y mwyaf ywr potensial i gael bargen well.
Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y cynllun yw dydd Sul yma, Mawrth 1.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
鈥淕yda Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ddydd Gwener yma, maen amserol i 
atgoffa trigolion Sir y Fflint i gofrestru gyda Cyd Cymru. Drwy ddod at ei 
gilydd i brynu ynni, gall cartrefi gael gwell bargeinion. Pan fyddwch yn 
cofrestru gyda Cyd Cymru nid oes unrhyw gost neu ymrwymiad i newid, ond unwaith 
y bydd y cynnig hwn ar gael ym mis Mawrth, byddwch yn gallu gweld faint o arian 
allech chi ei arbed cyn i chi benderfynu a ydych eisiau newid. Byddwch hefyd yn 
gallu gweld sut mae hyn yn cymharu 芒 thariffau presennol y farchnad. Y llynedd, 
helpodd y cynllun aelwydydd ledled Cymru i arbed 拢185 y flwyddyn ar eu biliau 
ynni ar gyfartaledd.
Gall trigolion gofrestru i dderbyn cynnig o bris heb unrhyw ymrwymiad ym mis 
Mawrth naill ai ar-lein yn www.cydcymru-energy.com neu drwy ffonio 0800 093 
5902.