Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cwmni recriwtio yn agor swyddfa yn Queensferry gyda chymorth Cynllun Gwella Strydoedd Glannau Dyfrdwy
  		Published: 24/02/2015
Mae cwmni hyfforddi a recriwtio wedi agor swyddfa yn Queensferry, gyda chymorth 
grant gan Gyngor Sir y Fflint.
Maer Cyngor wedi darparu cymorth grant i gwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr 
i wneud gwaith adeiladu, fel rhan o gynllun grant i wella strydoedd yng 
Nglannau Dyfrdwy. Caiff y cynllun ei ariannu gan raglen Llefydd Llewyrchus 
Llawn Addewid Llywodraeth Cymru syn dyrannu arian adfywio mewn siroedd ledled 
Cymru.
Maer cynllun yn darparu grantiau i berchnogion eiddo a thenantiaid i adnewyddu 
blaenau siopau a ffryntiadau adeiladau masnachol mewn cam pwysig tuag at 
wella鈥檙 profiad o siopa a masnachu yn lleol yng nghanol trefi Glannau Dyfrdwy.
Maer cymorth grant a gafodd cwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr wediu 
galluogi i gynnal nifer o welliannau, gan gynnwys gosod ffenestri newydd er 
mwyn gwella ffryntiad y stryd, arwyddion newydd, diweddaru a gwella landerydd, 
paentio鈥檙 adeilad ac atgyweirior gwaith brics.
Mae grantiau i wella golwg allanol siopau ac eiddo masnachol yng nghanol trefi 
Cei Connah, Garden City, Shotton a Queensferry yn parhau i fod ar gael trwyr 
Cyngor Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: 
鈥淗offwn longyfarch cwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr a dymuno pob 
llwyddiant iddynt ar eu menter, syn adfer hen adeilad banc y NatWest at 
ddefnydd cynhyrchiol fel swyddfa hyfforddi a recriwtio. Maer rhaglen Llefydd 
Llewyrchus Llawn Addewid yn cydnabod y r么l bwysig y mae canol trefi ac 
ardaloedd siopa yn eu chwarae ym mywyd Sir y Fflint. Gall stryd ddeniadol sydd 
wedii chynllunio ai rheolin dda wella llewyrch a dichonoldeb canol trefi 
Glannau Dyfrdwy ac annog pobl eraill i fuddsoddi. Byddem yn croesawur cyfle i 
gefnogi datblygiad busnesau eraill yn yr ardal.鈥 
Dywedodd, Vicki Roskams, perchennog cwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr :
鈥淩ydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn agor ein swyddfa newydd yn Queensferry, 
yn falch o鈥檙 ffaith ein bod yn creu swyddi ac yn falch o鈥檙 cyfle sydd i 
fuddsoddi mewn ardal arbennig.鈥 
鈥淐afodd ein sefydliad ei sefydlu gydar unig nod o helpu pobl yn yr ardal leol 
i feithrin hyfforddiant a hyder iw galluogi i gyrraedd eu llawn botensial mewn 
rolau a swyddi sydd yn cynnig atebion tymor hir ac nid pethau tymor byr i lenwi 
bwlch.鈥
鈥淐afodd y fenter ei chyflawni鈥檔 rhannol gyda chymorth oddi wrth y Cyngor. Maer 
fenter Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid yn cyflwyno posibiliadau gwych a byddwn 
yn annog pobl eraill i ddysgu mwy am y rhaglen, er mwyn helpu i godi ysbryd ac 
edrychiad y stryd ar ardal leol, sydd hefyd yn helpu pobl i deimlon dda 
ynglyn 芒 ble maent yn byw. Cefais gefnogaeth dda gan Gyngor Sir y Fflint drwyr 
broses a byddwn yn annog busnesau eraill i fanteisio ar y cymorth sy鈥檔 cael ei 
ddarparu.鈥
Mae uchafswm grant o hyd at 拢15,000 yr eiddo ar gael, ac mae modd cael arian 
grant am o hyd at 50% o gyfanswm cost y gwelliannau. Gellir cael rhagor o 
wybodaeth a chanllawiau manwl drwy gysylltu 芒 Chyngor Sir y Fflint ar 01352 
703223.
Gellir gweld manylion ynglyn 芒 chwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr ar 
www.enbarrenterprises.com