Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Prosiect Campws Queensferry - Oedi ac Adolygu
  		Published: 16/02/2015
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Campws Queensferry yn cael ei drafod 
yn y Cabinet ddydd Mawrth (17 Chwefror).
Ym mis Hydref 2014, cyhoeddodd y Cyngor ei fod yn oedi ac yn adolygu cynnydd ar 
Brosiect Campws Queensferry, adeilad ysgol newydd a oedd i gymryd lle Ysgol 
Uwchradd John Summers ac adnewyddur  Ysgol Gynradd Queensferry cyfagos.
Roedd y Cyngor wedi gwneud ymrwymiad polisi i ddatblygu achos busnes ar gyfer 
ysgol i blant 3-16 oed a champws newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd John Summers. 
Cafodd yr oedi ac adolygu ei gynnal yn dilyn pryder am wydnwch y data sydd ei 
angen i gefnogir achos busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer ariannu o dan ei 
Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Cynhaliwyd yr adolygiad o ganlyniad i 
wybodaeth ddiweddaraf a gostyngiad yn yr union nifer o ddisgyblion ac a 
ragwelir yn yr ardal. 
Nawr bod yr adolygiad wedii gwblhau, yr argymhelliad ir Cabinet yw peidio 
bwrw ymlaen ag ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Uwchradd John Summers ac i 
ddechrau cyfnod o ymgynghori ffurfiol ar y ffordd orau i sicrhau addysg wydn, 
gynaliadwy, o ansawdd uchel yn yr ardal.
Meddai Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid: 
鈥淩ydym yn deall y lefel o siom yn y gymuned. Fodd bynnag, mae gennym 
ddyletswydd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd 
fwyaf effeithlon posibl i gefnogi dysgwyr. Er mwyn i raglen adeilad ysgol 
newydd fynd yn ei blaen, ac i sicrhau cyllid cyfalaf, mae鈥檔 rhaid i achos 
busnes gwrdd 芒 nifer o brofion. Roedd  yn rhaid i ni fod yn hyderus y byddai 
yna ddigon o ddisgyblion dros y blynyddoedd nesaf ac yn y dyfodol yn yr ysgol, 
ac nid dyma鈥檙 achos.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg:
鈥淩oedd y cynlluniau gwreiddiol yn seiliedig ar 600 o leoedd mewn ysgol 
uwchradd, ond nid oes digon o niferoedd cyfredol ac arfaethedig o ddisgyblion i 
gefnogi hyn. Er bod cadarnhad yr wythnos ddiwethaf o鈥檙 ffordd gyswllt sydd 
wedii chynllunio trwy safle datblygu鈥檙 Porth Gogleddol, nid ywn newid y lefel 
datblygu tai y gellir ei wneud yno neur angen a aseswyd am leoedd mewn 
ysgolion lleol - ac ni fydd y datblygiad yn cael ei gwblhau am rai blynyddoedd. 
Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ostyngiad a ragwelir mewn cyfraddau 
geni.
鈥淢aer corff llywodraethu wedi mynegi barn eu bod yn dymuno osgoi cyfnod hir o 
ansicrwydd ir ysgol ar gymuned leol. Y cam nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth 
y Cabinet ddydd Mawrth, fydd dechrau ymgynghoriad ffurfiol i edrych ar hyfywedd 
yr ysgol bresennol yn y dyfodol. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn destun 
gweithdrefnau ymgynghori statudol llawn. 
鈥淢aer penderfyniad hwn hefyd yn golygu bod y penderfyniad cynharach i gynnwys 
darpariaeth Dosbarth Meithrin yn Ysgol Gynradd Queensferry fel ysgol i blant 3 
i 11 oed yn aros fel y mae.