Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Fforwm Rhanbarthol Teithio Ymlaen
  		Published: 09/03/2015
Cynhaliwyd fforwm rhanbarthol syn dod 芒 Sipsiwn a Theithwyr ifanc ynghyd 芒 
phenderfynwyr allweddol mewn materion addysg a phlant yn ddiweddar.
Maer Fforwm Rhanbarthol Teithio Ymlaen yn cael ei gynnal gan Achub y Plant ac 
maen cynnwys Sipsiwn a Theithwyr ifanc o Sir y Fflint a Wrecsam a gefnogir gan 
Wasanaeth Addysg i Deithwyr Sir y Fflint a Wrecsam a Gwasanaethau Ieuenctid Sir 
y Fflint.
Fei cynhaliwyd yng Nghanolfan Ieuenctid yn Ysgol Uwchradd John Summers yn 
Queensferry.
Ymunwyd 芒鈥檙 Fforwm gan Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru, Eleri Thomas; Prif 
Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint, Ian Budd a Phennaeth Ysgol Uwchradd John 
Summers, Paula Stanford.
Cymerodd y Dirprwy Gomisiynydd Plant amser hefyd i longyfarch Sipsiwn a 
Theithwyr Ifanc Sir y Fflint sydd hefyd yn rhan o Grwp Dimensiwn Teithwyr 
Ysbrydoledig, ar  y gwaith a wn芒nt ar gyfer eu cymuned leol, syn cynnwys codi 
arian ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
鈥淩oedd hwn yn ddigwyddiad rhagorol. Yn ystod y dydd gweithiodd y Fforwm i 
archwilio addysg Sipsiwn a Theithwyr. Roedd yn gyfle gwych i Sipsiwn a 
Theithwyr ifanc drafod materion syn effeithio arnyn nhw gyda rhai or rhai 
syn gwneud penderfyniadau allweddol yn y sir a thu hwnt.
Dywedodd Sarah Davies, Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Sir y Fflint: 鈥淎r y cyfan, 
cafodd pawb ddiwrnod gwirioneddol ddifyr. Yn y prynhawn, roedd y bobl ifanc 
hefyd wedi mwynhau trip sglefrio i芒.
Llun