Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweinidog yn ymweld â Chartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes) 
  		Published: 12/02/2015
Mae Lesley Griffiths AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yn ymweld 芒 
Phenyffordd dydd Iau yma (12 Chwefror) i gael gwybod mwy am NEW Homes,  cwmni 
tai fforddiadwy a sefydlwyd gan Gyngor Sir y Fflint.
Bydd swyddogion a chynghorwyr yn tynnu sylw at sut y maer cwmni wedi helpur 
Cyngor i oresgyn rhwystrau i ddarparu opsiynau tai mwy fforddiadwy i drigolion 
lleol. 
Fel rhan oi hymweliad, bydd y Gweinidog yn ymweld ag un or adeiladau newydd 
sy鈥檔 eiddo ir cwmni ac a reolir ganddynt, a bydd hefyd yn cwrdd ag un or 
tenantiaid newydd.  
Enillodd Sir y Fflint Wobr Tai Cymru fawreddog am fod yr awdurdod cyntaf yng 
Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun.
Yn ogystal 芒 rhentu ei eiddo ei hun, mae NEW Homes yn cynnal ystod o gynigion i 
landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaeth barod i denantiaid. Maer cwmni 
yn cynnig gwasanaeth llawn i osod a rheoli eiddo, yn ogystal 芒鈥檙 cynnig unigryw 
i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu heiddo ir cwmni a chael mynediad 
at lety addas gan y cyngor. 
Dywedodd Lesley Griffiths AC: 鈥淢aen dda gweld cynllun mor arloesol fel NEW 
Homes ar waith.  Maen gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol drwy ddarparu 
nifer o wahanol ffyrdd o gynorthwyor rheini sydd angen tai.  Rwyn falch o 
weld cynlluniau fel yr un yma, nid yn unig  yn gwella safonau a chyflenwad tai, 
ond hefyd yr effaith ehangach y gallant ei chael ar gymunedau lleol.鈥 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd NEW Homes:
鈥淩wyf wrth fy modd yn cael croesawur Gweinidog ac yn falch ei bod yn gallu 
gweld drosti ei hun pa mor llwyddiannus y mae NEW Homes wedi bod. Sefydlwyd NEW 
Homes i ddarparu dewis arall newydd,  fforddiadwy o ran tai i bobl leol, nad 
ydynt yn gallu fforddio cost rhent uchel gan landlordiaid preifat, a / neu nad 
ydynt yn gymwys i gael ty Cyngor.鈥 
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: 鈥淩ydym yn falch iawn 
o NEW Homes, sydd yn ateb arloesol ir problemau a wynebir gan lawer o bobl 
sydd yn methu fforddio costau rhent y farchnad ond nad ydynt yn gymwys i gael 
tai cyngor. Rydym yn falch bod y syniad yn cael cydnabyddiaeth sylweddol ar 
lefel genedlaethol, o ran ein gwobr a鈥檙 ffaith bod y  Gweinidog yn dangos 
cymaint o ddiddordeb yn y cynllun.鈥
I gael rhagor o wybodaeth am y cwmni ar gwasanaethau a gynigir, ewch i wefan 
NEW Homes www.northeastwaleshomes.co.uk neu ffoniwch NEW Homes ar 01352 701400.