Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cyngor yn cefnogi busnesau lleol drwy gynllun grantiau
  		Published: 05/02/2015
Bydd rhai o fusnesau bach y sir yn elwa o gefnogaeth ariannol gan y Cyngor, 
trwy gynllun grantiau anghenion lleol trethi busnes.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithredur 
cynllun grantiau, syn ceisio cefnogi busnesau lleol sydd angen cymorth 
ariannol. Bydd yr arian yn galluogir Cyngor i ddarparu cymorth ychwanegol i 
fusnesau bach syn derbyn gostyngiad rhannol ar drethi busnes i fusnesau bach 
sydd 芒 throthwy gwerth ardrethol o rwng 拢6,001 a 拢7,500. Gall dros 200 o 
fusnesau syn bodlonir meini prawf hyn bellach elwa or grant ychwanegol.
O ganlyniad ir gwobrau hyn, bydd llawer o fusnesau bach, yn enwedig y rhai 
syn gweithredu ar ein prif strydoedd lleol a chanol trefi, yn derbyn grant 
sydd i bob pwrpas yn eu heithrio o unrhyw atebolrwydd trethi busnes yn 2014-15. 
Bydd llythyrau鈥檔 cael eu hanfon yn fuan i fusnesau i gadarnhau鈥檙 dyfarniadau 
ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor ar Aelod Cabinet 
Cyllid:
鈥淩ydym yn falch iawn ein bod yn gallu darparu cymorth ychwanegol i lawer on 
busnesau lleol. Mae hyn yn rhan on hymrwymiad i gynnal cyflogaeth a busnesau 
lleol, ac yn dangos ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogir economi 
leol a dangos bod Sir y Fflint yn sicr ar agor ar gyfer busnes.鈥