Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Codi Baneri y Gymanwlad: 9 Mawrth 2015
  		Published: 10/02/2015
Am y tro cyntaf mewn hanes morwrol, bydd un llong ar ddeg cwmni llongau P&O a 
Cunard yn codi baner y Gymanwlad mewn amryw o leoliadau wrth iddynt deithio o 
amgylch y byd am 10am ddydd Llun 9 Mawrth 2015.  Yn Sir y Fflint, caiff y faner 
ei chodi yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.
Er mwyn adeiladu ar y digwyddiadau agoriadol hynod lwyddiannus a gynhaliwyd y 
llynedd, bydd dros 650 o faneri鈥檙 Gymanwlad yn cael eu codi mewn 38 o wledydd y 
Gymanwlad fel rhan o鈥檙 fenter unigryw.  Mae wedi dal dychymyg miloedd o 
gyfranogwyr o bob cwr o鈥檙 byd, ac mae wedi galluogi pobl o bob oedran i gymryd 
rhan yn eu cymunedau lleol ac ymuno ag eraill ledled y byd i fod yn 
gysylltiedig ag ymrwymiad cyhoeddus eang i鈥檙 Gymanwlad, i werthfawrogi ei 
gwerthoedd a鈥檙 cyfleoedd a gynigir i鈥檞 dinasyddion.
Meddai Bruno Peek LVO OBE OPR, Meistr y Pasiant Fly a Flag for the 
Commonwealth: Rwy鈥檔 falch iawn fod cwmni llongau  P&O a Cunard yn cymryd rhan 
fel hyn ac yn canmol eu blaengarwch ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd y rheiny ar fwrdd 
y llong y bore hwnnw yn mwynhau鈥檙 profiad unigryw. 
Am y tro cyntaf, bydd Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol yn cymryd rhan yn y fenter 
ar 9 Mawrth 2015.  Bydd Baneri鈥檙 Gymanwlad yn cael eu codi gan Gadetiaid Awyr 
ym mhob un o鈥檙 chwe Corfflu Hyfforddiant Awyr.  Mae cysylltiadau agos rhwng 
Cadetiaid Awyr y DU a Chadetiaid yng ngwledydd eraill y Gymanwlad a bydd y 
Cadetiaid yn falch o ddathlu gwerthoedd y Gymanwlad ar 9 Mawrth 2015.
Bydd Datganiad y Gymanwlad arbennig yn cael ei ddarllen ym mhob seremoni cyn 
codi Baner y Gymanwlad am 10am y bore hwnnw.
Yn Sir y Fflint, arweinir y digwyddiad gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd 
Glenys Diskin. Meddai: 鈥淢ae鈥檔 fraint cael codi Baner y Gymanwlad ar ran Cyngor 
Sir y Fflint ar Ddiwrnod y Gymanwlad.  Rwy鈥檔 siwr y bydd y fenter hon, sy鈥檔 uno 
cymunedau o dan un digwyddiad, lle bydd baneri鈥檔 cael eu codi ar yr un pryd, yn 
codi ymwybyddiaeth o鈥檙 Gymanwlad a鈥檙 hyn y mae鈥檔 ei gynrychioli i bawb, boed 
drwy sefydliadau lleol, cenedlaethol neu fudiadau elusennol.
Bydd timau elusennol 鈥楩ields of Life鈥, sef elusen o ogledd Iwerddon ac Uganda, 
yn nodi鈥檙 diwrnod drwy fynd 芒 Baneri鈥檙 Gymanwlad i bedwar copa uchaf y DU ac yn 
defnyddio鈥檙 achlysur i godi arian gwerthfawr i鈥檞 achos da: Scafell Pike, Lloegr 
- Yr Wyddfa, Cymru - Ben Nevis, Yr Alban a Slieve Donard, Gogledd Iwerddon.  
Bydd yr elusen hefyd yn codi鈥檙 faner mewn ysgolion ledled Ugandar diwrnod 
hwnnw.
Codir Baneri鈥檙 Gymanwlad mewn sawl lleoliad pwysig y bore hwnnw, gan gynnwys 
chwe seremoni ar ynys George Cross ym Malta; Dinas Wellington yn Seland Newydd, 
Belize, Jamaica, Mawrisiws, Sri Lanka; Lowestoft, Suffolk, y dref fwyaf 
dwyreiniol yn Lloegr; Unst ar Ynysoedd Shetland, yr Ynys breswyliedig fwyaf 
deheuol yn yr Alban; Gorsaf Ymchwil Rothera ar benrhyn Antartica; a Tristan Da 
Cunha, yr ynys breswyliedig fwyaf anghysbell yn y byd - i enwi dim ond rhai.  
Codir baneri hefyd yng ngwesty鈥檙 Rye Lodge, sef gwesty mwyaf Dwyrain Sussex, a 
gwesty鈥檙 Cliff yn Gorleston-on-Sea, Great Yarmouth, yn ogystal 芒 gwledydd 
eraill y Gymanwlad sy鈥檔 cynnwys cyn-filwyr y Gymanwlad, ynghyd 芒 Sgowtiaid a 
Geidiau. Bydd yn dod 芒 phobl o bob oedran at ei gilydd i ddathlu鈥檙 teulu mawr 
hwn o genhedloedd gyda鈥檌 gilydd. 
Yn Tonga lle mae amser yn dechrau, mae Cymdeithas Geidiau Teyrnas Tonga 
(GGAKT) yn arbennig o falch o gael bod y wlad gyntaf yn y byd i godi baner y 
Gymanwlad am 10.00 fore Llun 9 Mawrth 2015, gan arwain ieuenctid y Gymanwlad yn 
y digwyddiad unigryw, hanesyddol a byd-eang hwn y bore hwnnw, rydym hefyd yn 
hapus iawn ac yn edrych ymlaen at y diwrnod, ac yn benderfynol gydag ieuenctid 
Tonga o fwynhau ein cysylltiad i gefnogi Siarter y Gymanwlad, yr ydym yn 
ddyledus iawn iddi鈥, meddai Halaevalu Mangisi Palu, Prif Gomisiynydd (GGAKT).
Meddai Ei Ardderchowgrwydd Kamalesh Sharma, Prif Ysgrifennydd y Gymanwlad:
Mae menter 鈥楩ly a Flag for the Commonwealth鈥 yn ffordd greadigol i bobl mewn 
cymunedau lleol - ble bynnag y maent yn byw, dysgu neu weithio, i ymuno ag 
eraill ym mhob rhan o鈥檙 Gymanwlad mewn ymdeimlad o barch a dealltwriaeth i 
ddathlu amrywiaeth digyffelyb ein teulu byd-eang.  Rwy鈥檔 ei groesawu a鈥檌 
ganmol.
Gall ein holl ddinasyddion, yn arbennig y rhai ifanc, fynegi eu 
gwerthfawrogiad o鈥檙 Gymanwlad a鈥檙 gwerthoedd y mae鈥檔 eu cynrychioli, fel y鈥檜 
nodir yn Siarter y Gymanwlad, a鈥檙 cyfleoedd cyfoethog y mae鈥檔 eu cynnig ar 
gyfer cymorth ar y cyd tuag at gynnydd economaidd cymdeithas gynhwysol a 
thecach.鈥
DIWEDD
NODYN I OLYGYDDION:
Gwybodaeth bellach a rhestr lawn o鈥檙 rheiny sy鈥檔 cymryd rhan yn y fenter Fly a 
Flag for the Commonwealth:
Bruno Peek LVO OBE OPR
Meistr Pasiant
Ff么n: 07737 262 913
E-bost: pageantmaster@mac.com
Cymdeithas Geidiau Teyrnas Tonga:
Halaevalu Mangisi Palu - Prif Gomisiynydd
E-bost: hmvpalu@yahoo.com
Fields of Life:
Helen Darcy
Ff么n: 02838 390 395
E-bost: helen.darcy@fieldsoflife.org
Ysgrifennyddiaeth y Gymanwlad
David Banks - Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus  Prif Ysgrifennydd y Gymanwlad
Ff么n: 0207 747 6130
E-bost: d.banks@commonwealth.int
Cwmni Llongau P&O a Cunard:
Michele Andjel
Ff么n: 02380 656 653
E-bost: michele.andjel@carnivalukgroup.com