Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Clwb Menter Sir y Fflint
  		Published: 12/02/2015
Ydych chi鈥檔 entrepreneur gyda syniad busnes ond nad ydych yn gwybod sut i鈥檞 
ddatblygu ir lefel nesaf? 
Mae Clwb Menter Sir y Fflint yn cynnig cymorth a chyngor ynglyn 芒 sefydlu eich 
busnes eich hun.
Gyda gweithdai am ddim gan Brifysgol Glyndwr, mae鈥檙 amgylchedd llawn gwybodaeth 
a chyfeillgar yn creu cyfle rhwydweithio rhagorol.   Cynhelir sesiynau grwp bob 
yn ail dydd Gwener yng Nghampws Cymunedol John Summers 10am tan 12 hanner dydd. 
Mae鈥檙 clwb menter yn gyfle gwych i unigolion gael cymorth i ddatblygu syniadau 
busnes newydd neu gefnogaeth ar gyfer busnesau newydd.  Mae鈥檙 clwb yn annog 
pobl busnes i ddod at ei gilydd a rhwydweithio ac yn cynnig gweithdai am ddim i 
gynorthwyo i sefydlu a marchnata busnesau. 
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
鈥淏yddwn yn annog unrhyw un syn dechrau ym myd busnes 鈥 neu sy鈥檔 ystyried 
sefydlu busnes 鈥 i ymuno 芒 Chlwb Menter Sir y Fflint.  Mae鈥檔 flaenoriaeth i鈥檙 
Cyngor i gefnogi pobl mewn busnes a chyflogaeth ac mae Cymunedau鈥檔 Gyntaf Sir y 
Fflint yn gweithio鈥檔 galed i ddiwallu鈥檙 nod hwnnw.鈥 
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒 Beverly Moseley Cymunedau鈥檔 Gyntaf ar 
01244 846090.