Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cynghorydd Stella Jones
  		Published: 28/01/2015
Mae teyrngedau twymgalon wedi鈥檜 talu i鈥檙 Cynghorydd Stella Jones sydd wedi marw.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
Roeddwn yn eithriadol o drist o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Stella 
Jones.  Roedd Stella鈥檔 wraig hyfryd ac yn was cyhoeddus ymroddedig.  Roedd 
parch mawr tuag ati hi yn y Cyngor Sir ac yng nghymuned Caergwrle sef y gymuned 
y bu鈥檔 gweithio mor ddiflino drosti.  Mae鈥檙 Sir wedi colli Cynghorydd a wnaeth 
wahaniaeth anferth i gymaint o fywydau, a byddwn i gyd yn gweld colled fawr ar 
ei h么l.
Meddai Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Glenys Diskin:
鈥淢ae鈥檔 ddrwg iawn gennyf glywed y newyddion a mae fy meddyliau gyda theulu 
Stella ac rwy鈥檔 cydymdeimlo 芒 nhw鈥檔 fawr.  Roedd gennyf feddwl mawr o Stella ac 
roedd yn gynghorydd diwyd dros ben.  Fel swyddog ac, ar 么l hynny, fel 
llywodraethwr ysgol a Chynghorydd Sir, roedd yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth 
go iawn i faterion addysgol.  Byddai鈥檔 mynd allan o鈥檌 ffordd i helpu unrhyw un 
a bydd pawb yn gweld ei heisiau.鈥
Etholwyd y Cynghorydd Jones am y tro cyntaf i Gyngor Sir y Fflint ym mis Mai 
2004.  Roedd yn Is-gadeirydd y Fforwm Cynhwysiant Cymdeithasol rhwng Mai 2004 a 
Mai 2008.  Bu鈥檔 aelod o Gyngor Cymuned yr H么b ers 2000 ac roedd yn 
llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr H么b, ac Ysgol Gynradd 
Abermorddu.  Cyn dod yn gynghorydd sir, gweithiodd ym myd addysg yn y Sir.