Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref i agor or newydd
  		Published: 21/01/2015
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn agor safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd yn 
Sandycroft ddydd Llun 26 Ionawr.
Bydd y safle newydd ar Prince William Avenue yn cynnig cyfleusterau ailgylchu a 
gwaredu gwastraff llawn. Mae鈥檙 safle wedi鈥檌 lunio i鈥檞 gwneud yn haws i 
drigolion Sir y Fflint ailgylchu eu gwastraff.  Nid oes unrhyw risiau i鈥檞 
dringo a phwrpas y safle yw i drigolion ailgylchu a dargyfeirio cymaint ag sy鈥檔 
bosibl o鈥檜 gwastraff o safleoedd tirlenwi.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o鈥檙 Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, 
Diogelu鈥檙 Cyhoedd a Hamdden:
Mae hwn yn safle newydd gwych i bobl Sir y Fflint.  Mae鈥檔 hawdd i鈥檞 ddefnyddio 
a byddwn yn annog preswylwyr i roi blaenoriaeth i ailgylchu wrth ddefnyddio鈥檙 
cyfleuster.  Rydym am i鈥檙 safle fod yn un o鈥檙 rhai uchaf eu perfformiad yng 
Nghymru, neu hyd yn oed y DU鈥.
Bydd agor y safle newydd hwn yn arwain at gau safleoedd ailgylchu llai yn 
Queensferry a Saltney.
Bwriedir agor y safle鈥檔 swyddogol yn ddiweddarach yn y mis.