Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cronfa Gofal Canolraddol 
  		Published: 16/01/2015
Bydd llwyddiant cronfa flwyddyn i gefnogi gwasanaethau Gofal Canolraddol newydd 
neu ychwanegol, ac i annog gweithio integredig rhwng awdurdodau lleol, Iechyd a 
phartneriaid eraill, yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Mawrth (20 
Ionawr). 
Mae gwasanaethau gofal canolraddol yn cael eu darparu i gleifion iw helpu i 
osgoi mynd ir ysbyty yn ddiangen, eu helpu i fod mor annibynnol 芒 phosibl ar 
么l eu rhyddhau or ysbyty, a鈥檜 rhwystro rhag gorfod symud i mewn i gartrefi 
preswyl neu gartrefi nyrsio nes y mae angen iddynt wneud hynny.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Gronfa Gofal Canolraddol ar gyfer 2014/15 ac mae 
Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn arwain y gwaith o reolir gronfa ar ran Gogledd 
Cymru. Roedd cais Sir y Fflint yn seiliedig ar ffocws cyson ar wella 
gwasanaethau ar gyfer pobl 芒 dementia.
Drwyr Gronfa, mae nifer o brosiectau wedi eu cyflwynon llwyddiannus yn y sir 
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae鈥檙 rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar 
gefnogi pobl yn y gymuned. 
Maer rhain yn cynnwys buddsoddi mewn dulliau cam i lawr ar gyfer pobl syn 
barod i ddod allan or ysbyty ond sydd angen rhagor o gefnogaeth yn y gymuned 
cyn y gallant ddychwelyd adref.  Maer Gronfa wedi galluogi rhoi gwelyau cam i 
lawr gofal canolraddol mewn tri chartref gofal (Llys Gwenffrwd, Marleyfield a 
Chroes Atti). Mae gwely hefyd wedi ei ddarparu yn Nhy Cerrig, Caergwrle, er 
mwyn caniat谩u ar gyfer asesiad dementia yn y gymuned. Yn y gymuned, maer 
gronfa wedi caniat谩u i ofal dementia arbenigol gael ei ymestyn. 
Maer gronfa hefyd wedi cefnogi gweithion agos gydar sector gwirfoddol gan 
gynnwys Gofal a Thrwsio Sir y Fflint, sydd 芒 staff wedi eu hyfforddin arbennig 
i ddarparu cymorth ymarferol i bobl sydd 芒 thueddiadau casglu, fel y gallant 
ddychwelyd adref yn ddiogel ar 么l arhosiad yn yr ysbyty. Maer Gronfa hefyd 
wedi ei defnyddio i gefnogi cyflwyno opsiynau tai gwell i bobl hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol:
鈥淢ae Sir y Fflint yn cael ei gydnabod fel sir sy鈥檔 arwain y ffordd o ran gofal 
dementia, gyda gwasanaethau fel caffis dementia, tai gofal ychwanegol arbenigol 
a chefnogaeth gofal yn y cartref o safon. Rwyf yn hynod o falch bod y Gronfa 
Gofal Canolraddol wedi ein galluogi i ddarparu cefnogaeth a chyfleusterau 
ychwanegol, ai fod wedi ein galluogi i adeiladu ar ein partneriaethau i 
sicrhau bod mwy o wasanaethau gwell ar gyfer yr holl breswylwyr.