Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Trosglwyddo Asedau Cymunedol 
  		Published: 16/01/2015
Bydd ymateb ardderchog cymunedau Sir y Fflint i gynllun trosglwyddo asedau 
cymunedol Cyngor Sir y Fflint yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor 
ddydd Mawrth (20 Ionawr).
Bydd Aelodaur Cabinet yn derbyn diweddariad ar ddatblygiad y cynllun, a gafodd 
ei ail-lansio ar ddechrau mis Tachwedd 2014. 
Mae asedau cyhoeddus syn eiddo ir Cyngor, ac syn cael eu hystyried yn addas 
ar gyfer trosglwyddiadau yn cynnwys caeau chwarae, mannau chwarae, canolfannau 
cymunedol, canolfannau ieuenctid, rhandiroedd, meysydd chwaraeon, pafiliynau, a 
llyfrgelloedd. Mae gan Gynghorau鈥檙  dewis i drosglwyddo adeiladau a thir i 
grwpiau cymunedol neu elusennol i鈥檞 rhedeg er budd y gymuned.
Yn dilyn y dyddiad cau cyntaf ar gyfer datganiadau o ddiddordeb, mae ugain o 
gynigion ar gyfer dros 40 o asedau eisoes wedi cael eu cytuno i symud ymlaen 
ir cam nesaf. Y cam nesaf yw cynhyrchu achos busnes. Dim ond grwp cymunedol 
all wneud hyn a disgwylir iddo gymryd tua chwe mis. Y cam olaf wedyn yw cwblhau 
cyfreithiol a throsglwyddo鈥檙 ased.
Bydd y Cabinet yn clywed bod y lefel o ddiddordeb gan grwpiau cymunedol yn 
parhau i fod yn uchel. Yn ogystal 芒r datganiadau ffurfiol o ddiddordeb, mae 47 
o ymholiadau anffurfiol hefyd wedi dod i law, sy鈥檔 ymwneud 芒 195 o asedau syn 
cwmpasu 21 o ardaloedd Cynghorau Tref a Chymuned.  Maer rhain wedi cynnwys 
cyfarfod positif diweddar gyda Chyngor Tref Cei Connah am yr asedau cymunedol 
yn y dref, gan gynnwys y pwll nofio; roedd yr agwedd hon yn ei hun yn creu 
llawer o ddiddordeb yn ystod y cyfarfod.
Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn cydlynur cynllun ac yn darparu 
pecyn cymorth wedii deilwra ar gyfer sefydliadau, drwy d卯m staff FLVC a thrwy 
eu cyfeirio at sefydliadau partner arbenigol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淩ydym wedi cael ymateb positif gan lawer o鈥檔 cymunedau. Maen braf gwybod, 
trwy ymgysylltu 芒n cymunedau lleol, ein bod yn ymdrechu i ddod o hyd i atebion 
tymor hir fydd gobeithio yn cynnal ein gwasanaethau ac asedau lleol ac yn 
darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio a menter gymdeithasol.  Mae hyn yn gwbl 
hanfodol ar adeg o doriadau cyllido cenedlaethol digynsail i wasanaethau 
cyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd, a deiliad portffolio 
ar gyfer y cynllun:
鈥淩ydym wrth ein bodd gydar ymateb gan ein cymunedau lleol. Rydym bob amser 
wedi bod yn glir nad ywr mynegiant o ddiddordeb cychwynnol yn ymrwymor 
ymgeisydd nar Cyngor i drosglwyddo, ond maen caniat谩u trafodaeth fanylach, 
gydar cymorth cywir i helpu ymgeiswyr. Mae hon yn broses barhaus ac anogir 
sefydliadau sydd yn dal yn awyddus i fynegi diddordeb i gysylltu 芒 ni, gan yr 
ystyrir datganiadau o ddiddordeb yn fisol.
Bydd paneli yn cael eu cynnal bob tri mis i ystyried cynigion achos busnes.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Ian Bancroft neu Neal Cockerton ar 01352 
704511