Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Parc Arfordir Sir y Fflint
  		Published: 16/01/2015
Bydd strategaeth a phrosbectws ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint yn cael eu 
cymeradwyo yn y Cabinet ddydd Mawrth (20 Ionawr).
Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi arwain at fwy o ddiddordeb mewn cael mynediad i 
arfordir Sir y Fflint, gyda gwahanol grwpiau a mentrau lleol am ddatblygu 
ardaloedd ymhellach ac yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i gael cyllid grant. 
Maer Cyngor bellach wedi datblygu strategaeth fframwaith ar gyfer Parc 
Arfordir Sir y Fflint, a fydd yn cysylltu datblygiadau arfordirol Sir y Fflint. 
Maer strategaeth hefyd yn darparu cyfeirbwynt ar gyfer y rhai syn dymuno cael 
mynediad i gyfleoedd ariannu.
Mae prosbectws wedi ei gynhyrchu syn cynnwys chwech o ganolfannau ar hyd 
arfordir unigryw Sir y Fflint – ym Mhorth y Gogledd, Doc Cei Connah, Glannau’r 
Fflint, Cilfach Bagillt a Bettisfield Hill, Maes-glas a Thalacre - lle bydd 
pobl yn gallu cael mynediad i Llwybr Arfordir Cymru ar llwybr beicio a’u 
mwynhau.
Maer ddogfen hefyd yn nodi blaenoriaethau Parc Arfordir Sir y Fflint, syn 
cynnwys gwella twristiaeth, gweithgareddau hamdden a diwylliannol; gwella 
mynedfeydd, ac adfywior dociau. Maen rhoi manylion gweledigaeth ar gyfer Parc 
Arfordir Sir y Fflint yn 2034, gan ragweld amgylchedd hygyrch o ansawdd uchel 
gyda darpariaeth twristiaeth a hamdden ffyniannus a threftadaeth ddiwylliannol 
enwog.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd,
“Rydym yn hynod o falch o arfordir bras ac amrywiol Sir y Fflint. Mae sefydlu 
fframwaith ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint yn sicrhau bod gennym ddull 
cydgysylltiedig i ofalu am ein hamgylchedd arfordirol a bod ein harfordir yn 
cadw ei enw da fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden.
Gellir gweld copi or prosbectws drafft ar raglen y Cabinet ar wefan y Cyngor, 
www.siryfflint.gov.uk