Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
  		Published: 16/01/2015
Bydd y Cabinet yn cymeradwyo鈥檙 Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor blynyddol 
ddydd Mawrth (20 Ionawr).  
Maer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor yn ostyngiad a delir i aelwydydd ar 
incwm isel iw helpu nhw i dalu eu biliau Treth y Cyngor. Maen gynllun 
cenedlaethol gyda鈥檙 prif reoliadau yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, gan 
roi rhai pwerau i Gyngor Sir y Fflint wneud penderfyniadau. 
Maer Cyngor yn bwriadu parhau i ddefnyddior un meysydd o ddisgresiwn 芒鈥檙 
flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Sef:
- parhau i anwybyddu pensiynau anabledd rhyfel a phensiynau gweddwon rhyfel fel 
incwm.
-  peidio 芒 chynyddur cyfnod talu estynedig i fwy na phedair wythnos pan fydd 
ymgeisydd yn dechrau gweithio.
- cynnal y darpariaethau 么l-ddyddio tri mis safonol ar gyfer pensiynwyr pan 
roddir rheswm da dros fethu hawlio ynghynt.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淓r nad oes unrhyw arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i ariannur 
elfennau dewisol, rydw i鈥檔 falch o ddweud bod Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor 
arfaethedig Sir y Fflint ar gyfer 2015-2016 yn cefnogi parhau i ddiystyru pob 
pensiwn anabledd rhyfel a phensiwn gweddwon rhyfel fel incwm.鈥