Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweithdai am ddim i yrwyr hyn
  		Published: 20/01/2015
Mae gyrwyr 65 oed neu鈥檔 hyn yn cael cynnig sesiwn yrru am ddim.  Cynhelir 
gweithdai am ddim gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint i bobl 
dros 65 oed sy鈥檔 ystyried mynychu asesiad gyrru am ddim neu sy鈥檔 adnabod rhywun 
arall a hoffai wneud hynny.
Gall hyfforddwyr Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru gynnig cyngor 
defnyddiol ynglyn 芒 sut i addasu鈥檆h arddull gyrru wrth fynd yn hyn.  Bydd hyn 
yn eich helpu chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd i gadw鈥檔 ddiogel a鈥檆h cadw chi y 
tu 么l i鈥檙 llyw yn hirach.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o鈥檙 Cabinet 
dros yr Amgylchedd:
鈥淩wy鈥檔 annog pob preswylydd dros 65 oed i achub ar y cyfle hwn i gael sesiwn 
yrru am ddim.  Wrth i ni heneiddio, gall y newidiadau yr ydym yn mynd trwyddyn 
nhw effeithio ar y ffordd yr ydym yn gyrru.  Rhai o鈥檙 rhain o bosibl yw y bydd 
ein hamser ymateb yn arafu, efallai y byddwn yn cymryd mwy o amser i ddod i 
benderfyniadau a gall gyrru fod yn fwy blinedig a straenllyd.  Mae rhai gyrwyr 
yn sylwi ar y newidiadau hyn mor gynnar a chanol eu pumdegau.  Wrth iddyn nhw 
heneiddio, gall y mwyafrif o bobl ddal ati i yrru鈥檔 ddiogel heb unrhyw 
broblemau, ond mae hyn yn haws i鈥檞 wneud gydag ychydig o help gan weithiwr 
gyrru proffesiynol.鈥
Cynhelir dau weithdy am ddim yn Sir y Fflint sef dydd Iau 22 Ionawr am 1.30pm 
yng Nghanolfan Fusnes Maes Glas, Maes Glas, CH8 7GR; a鈥檙 llall ddydd Mercher 11 
Chwefror am 1.30pm yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.
I archebu lle yn un o鈥檙 gweithdai, neu i gael mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Uned 
Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352 704498.