Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Pac Gwepra ymhlith Parciau Gorau Cymru, yn ôl y BBC!
  		Published: 15/01/2015
Mae Parc Gwepra yng Nghei Connah wedi cael ei gydnabod fel un o Barciau Gorau 
Cymru.  Bydd prif barc Cyngor Sir y Fflint yn destun rhaglen hanner awr ar BBC1 
Wales nos Lun nesaf (19 Ionawr).
Cyfres gan y BBC sy鈥檔 tynnu sylw at bedwar parc yw Iolo鈥檚 Great Welsh Parks a 
bydd yn dangos bywyd gwyllt yn y parciau yn ystod y pedwar tymor. Cafodd Parc 
Gwepra, y ceidwaid, y gwirfoddolwyr a鈥檙 bywyd gwyllt ei ffilmio drwy gydol 
2014. Ymunodd y cyflwynydd, Iolo Williams, 芒鈥檙 Ceidwaid Cefn Gwlad wrth iddynt 
chwilio am y fadfall gribog brin; bu hefyd yn dilyn olion moch daear ac yn dod 
wyneb yn wyneb 芒  llygoden y maes.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet 
dros yr Amgylchedd:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn, er nad yw鈥檔 fawr o syndod, fod Parc Gwepra yn cael ei 
ystyried yn un o Barciau Gorau Cymru. Mae鈥檔 braf gweld bod y parc yn cael 
cymaint o sylw mewn slot boblogaidd ar BBC1 Wales. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at 
wylio鈥檙 rhaglen nos Lun, 19 Ionawr am 7.30pm. Os byddwch yn methu鈥檙 rhaglen 
bydd ar gael i鈥檞 gwylio eto ar BBC iPlayer am wythnos wedyn.鈥
Ychwanegodd Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint, Sarah Slater, a gafodd 
ei ffilmio gyda Iolo:
鈥淩oedd gweithio gyda鈥檙 t卯m cynhyrchu yn brofiad cyffrous iawn 鈥 cawsom weld sut 
y maent yn llwyddo i gael lluniau mor wych. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld ein 
rhaglen bywyd gwyllt ein hunain ar y teledu. 
Gallwch weld gwefan y rhaglen yma: http://www.bbc.co.uk/programmes/b04ynn64
i gael rhagor o wybodaeth. (Gweler y ffeil sydd ynghlwm)