Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llecyn addysgol ar y gweill ym Mharc Gwepra
Published: 19/01/2015
Mae gwaith wedi dechrau i greu llecyn addysgol ym Mharc Gwepra.
Mae Cyfeillion Parc Gwepra a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi sicrhau
拢17,000 yn ddiweddar gan fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru. Nod y fenter
hon yw galluogi cyrff cymunedol a grwpiau gwirfoddol i wella鈥檜 hamgylchedd
lleol. Bydd y prosiect yn ailddatblygu鈥檙 hen gwrs golff i greu man caeedig at
ddibenion addysgol. Bydd yn cynnwys gweirglodd, pwll a gwlypdir, llwyfan dysgu
a seddi a chysgodlen ganfas ar ffurf hwyl i warchod plant ac oedolion rhag y
tywydd.
Bydd gan y pwll newydd lwyfan chwilota ar gyfer pobl ag anableddau. Caiff
planhigion gwlypdir eu plannu o amgylch y pwll i ddenu gwas y neidr a
chreaduriaid di-asgwrn-cefn eraill.
Caiff Cyfeillion Parc Gwepra a phlant ysgol lleol eu gwahodd i helpu i blannu
hadau a bylbiau blodau gwyllt yn y llecyn. Caiff gwrych ei blannu hefyd ar hyd
y terfyn. Bydd y lle chwarae鈥檔 cael ei wella a chaiff ffens ei chodi a gwrych
ei blannu.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
鈥淏ydd hwn yn gyfleuster gwych i Barc Gwepra. Rwy鈥檔 hynod falch bod y rhan hon
o鈥檙 parc yn cael ei datblygu fel hyn. Bydd y llecyn yn edrych yn ardderchog ar
么l gorffen y gwaith ac rwy鈥檔 siwr y caiff ei ddefnyddio am flynyddoedd eto.鈥
Meddai Stephen Lewis, un o Geidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint, sy鈥檔 rhoi鈥檙
prosiect ar waith:
Bydd y llecyn addysgol hwn yn creu man caeedig lle gall plant ac oedolion
ddysgu am y gwahanol gynefinoedd a鈥檙 ecosystemau drwy ein rhaglen ddigwyddiadau
a dan arweiniad y Ceidwaid Cefn Gwlad. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda鈥檙
gymuned leol i roi鈥檙 prosiect cyffrous hwn ar waith ac rydym yn disgwyl y bydd
yn barod erbyn mis Ebrill.
Mae gwybodaeth am Barc Gwepra i鈥檞 chael yn www.flintshire.gov.uk/countryside
lle mae dolen hefyd i dudalen Facebook Cyfeillion Parc Gwepra. Sylwch fod rhif
ff么n Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra wedi newid; 01352 703900 yw鈥檙 rhif newydd.
Delwedd
Pennawd: mae gwaith ar y gweill i greu llecyn addysgol ym Mharc Gwepra :