Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr y Faner Werdd
Published: 16/08/2019
Bydd y Faner Werdd yn chwifio yn Nyffryn Maes Glas ac ym Mharc Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol a鈥檜 hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych am flwyddyn arall.
Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt.听 Maen nhw鈥檔 leoedd gwerthfawr iawn yn ein cymuned ac mae鈥檔 fraint derbyn y Wobr hon ar gyfer 2019/20.听听
Mae Parc Gwepra yn fan gwyrdd 160 erw yng nghanol Cei Connah ac mae鈥檔 lle unigryw gyda鈥檌 amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg. Mae鈥檙 nodweddion sydd i鈥檞 darganfod yn y Parc yn cynnwys gerddi鈥檙 hen blas, llyn pysgota, Nant a Rhaeadr Gwepra a Chastell Ewlo.
Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon ac mae鈥檔 cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol.听 Yn y gorffennol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd yn y ffatr茂oedd copr a鈥檙 melinau cotwm ac mae bellach yn fan gwyrdd arbennig, yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn noddfa i fywyd gwyllt.听 Mae Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas yn ardaloedd hyfryd sy鈥檔 hygyrch i鈥檙 gymuned eu crwydro a鈥檜 mwynhau.听听
Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas:听
听鈥淢ae鈥檙 staff a鈥檙 Bwrdd Ymddiriedolwyr yn falch iawn o Ddyffryn Maes Glas 鈥 un o drysorau Sir y Fflint 鈥 ac anrhydedd ydi derbyn y wobr yma.听 Mae鈥檔 wobr werthfawr iawn ac mae鈥檔 arwydd o ansawdd ein mannau gwyrdd lleol.听 Hoffem annog y gymuned i gyd i fynd allan i鈥檙 awyr agored a mwynhau ein llefydd naturiol dros yr haf.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;
听鈥淢ae鈥檔 anrhydedd i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra.听 Mae parciau Sir y Fflint o ansawdd ardderchog ac maen nhw鈥檔 rhan werthfawr o鈥檔 cymuned.听 Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl wirfoddolwyr a staff sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed i gynnal y safonau uchel yma a chaniat谩u i ni chwifio鈥檙 鈥楩aner Werdd鈥.听 Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau yma o ddiddordeb mawr i鈥檙 trigolion ac i dwristiaid ac maen nhw鈥檔 glod i Sir y Fflint.听听 Mi fyddwn i鈥檔 annog pawb i ddarganfod ein treftadaeth leol a mwynhau ein mannau gwyrdd naturiol yn ystod yr haf.鈥
听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 听 |
 |