Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Diweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol
Published: 10/07/2019
Bydd gofyn i鈥檙 Cabinet gefnogi cynnwys fersiwn ddrafft Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i鈥檞 Archwilio gan y Cyhoedd 2015-2030 (CDLl) ac argymell ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn y cyfarfod ar 23 Gorffennaf, er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.听
Y CDLl ydi cynllun defnydd tir arfaethedig y Cyngor, ac unwaith y bydd wedi鈥檌 fabwysiadu bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio i arwain a rheoli datblygiad a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.听
Cwblhawyd y cerrig milltir canlynol hyd yn hyn:
- llunio sail dystiolaeth gadarn i gefnogi鈥檙 cynllun听
- cyflwyno ac asesu safleoedd ymgeisiol
- ymgynghori 芒鈥檙 cyhoedd a budd-ddeiliaid allweddol ar y prif negeseuon o鈥檙 dystiolaeth gadarn听
- ymgynghori 芒鈥檙 cyhoedd a budd-deiliaid allweddol ar Weledigaeth, Amcanion y CDLl a鈥檙 Twf Strategol a Dewisiadau Gofodol - 2016
- ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir 鈥� Tachwedd 2017听
- galw am ac asesu Safleoedd Amgen fel rhan o鈥檙 ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir听
Mae鈥檙 ddogfen strategaeth a pholisi pwysig y Cyngor yn nodi鈥檙 fframwaith gynllunio yn Sir y Fflint ac mae鈥檔 nodi鈥檙 nodau canlynol:听
- darparu cyfleoedd i gyflwyno rhwng 8-10,000 o swyddi trwy gynnal portffolio hyfyw o dir cyflogaeth, i gefnogi dyheadau twf rhanbarthol ehangach;听
- darparu 6950 o gartrefi newydd dros gyfnod y cynllun听
- hwyluso cyflwyno dau ymrwymiad safle strategol hir dymor ym Mhorth y Gogledd a Warren Hall;听
- lleoli twf cynaliadwy yng nghanolfannau gwasanaeth y Sir ac aneddiadau cynaliadwy yn seiliedig ar hierarchaeth anheddiad;
- darparu datrysiad pragmataidd i anghenion tai fforddiadwy a thai arbenigol听
- lleihau鈥檙 angen i ddiwygio rhwystrau glas Sir y Fflint er mwyn hwyluso datblygu cynaliadwy;
- sicrhau bod safleoedd yn hyfyw ac yn gyflawnadwy, a sicrhau bod yr isadeiledd yn gallu ymdopi 芒 thwf yn y dyfodol.
Dywedodd Y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd;
鈥淎r 么l llawer o waith caled gan swyddogion ac aelodau dros y 4 blynedd diwethaf, mae鈥檙 CDLl presennol yn cynrychioli pen llanw ystyriaeth y Cyngor o gynnwys y cynllun er mwyn i'r cyhoedd ymgynghori arno.听
鈥淐ynhaliwyd rhaglen gynhwysfawr o ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid a鈥檙 cyhoedd ar gyfnodau allweddol o鈥檙 broses ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet a鈥檙 Cyngor Llawn, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar agor am gyfnod o chwe wythnos o ddydd Llun 30 Medi tan ddydd Llun 11 Tachwedd.听
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, yr amserlen ar gyfer y cynllun hyd nes y caiff ei fabwysiadu ydi:听
- ystyried sylwadau i鈥檙 ymgynghoriad ac ymateb gan y Cyngor: Ebrill/Mai 2020听
- cyflwyno鈥檙 CDLl er mwyn i Lywodraeth Cymru Graffu arno: Haf 2020
- Archwiliad ffurfiol o'r CDLl: Hydref 2020
- derbyn Adroddiad yr Archwilydd a Mabwysiadu鈥檙 CDLl:听 Haf 2021.
听