天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg

Published: 10/07/2019

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Gymraeg pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy鈥檔 nodi sut y mae wedi bodloni鈥檙 171 Safon Iaith Gymraeg a osodwyd ym mis Medi 2015 gan Comisiynydd y Gymraeg.

Bydd adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn rhoi cyfle i sefydlu beth mae鈥檙 Cyngor wedi ei wneud i fodloni鈥檙 safonau ac arddangos enghreifftiau o arferion da. Bu meysydd o gyflawniad rhagorol yn ystod y flwyddyn:

鈥 Trefnodd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gwrs 鈥淐ymraeg i Ddechreuwyr鈥 yn benodol ar gyfer y gweithlu Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys y sector annibynnol), a darparu sesiynau ymwybyddiaeth iaith i鈥檞 partneriaid i鈥檞 helpu i ddeall pwysigrwydd diwylliant Cymru o fewn darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol.

  • Cyflawnodd Ysgol Gwenffrwd Wobr Aur y Siarter Iaith ar gyfer eu defnydd cynyddol o鈥檙 Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae chwe ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi cyflawni Gwobr Efydd 鈥淐ymraeg Campus" am eu gwaith i ddatblygu鈥檙 Gymraeg yn yr ysgol.
  • Mae鈥檙 Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei ddiweddaru ac yn strategaeth bwysig er mwyn cynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a, dros amser, y posibilrwydd o gronfa o weithwyr sy'n siarad Cymraeg.
  • Am y tro cyntaf yn ei hanes darparodd Theatr Clwyd sioe Nadolig yn y Gymraeg sef y "Llew a'r Crydd".
  • Mae鈥檙 theatr yn datblygu cwrs achrededig newydd ar gyfer hwyluswyr dwyieithog - y cwrs cyntaf o鈥檌 fath erioed.
  • Cynyddodd Theatr Clwyd nifer yr arddangosiadau sinema Cymraeg a digwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg.

Mae dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o gymorth wrth gymhwyso'r safonau; mae angen i ragor o weithwyr gwblhau'r cyrsiau ymwybyddiaeth iaith sydd ar gael.听

Cynhaliwyd archwiliad i nifer fechan o gwynion yn ymwneud 芒'r Gymraeg gan y Comisiynydd.听 Roedd y cwynion hyn yn cyfeirio at alwadau ff么n, y wefan, arwyddion, gwybodaeth a chyfatebiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gellir cyflawni鈥檙 safonau newydd yn ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig o ardal y Cyngor.听 Er ein bod wedi cael nifer fechan o gwynion, rydym yn parhau i ymgysylltu a鈥檙 Comisiynydd ac yn gweithio'n galed i ddatrys y materion hyn.鈥

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

鈥淢ae鈥檙 cyngor wedi ymrwymo鈥檔 llawn i鈥檙 Gymraeg.听 听Mae gennym gyfres o safonau ymarferol a realistig sy'n atgyfnerthu ein hymrwymiad o ddwyieithrwydd heb fod yn faich ariannol.听 Mae ein Strategaeth Hyrwyddo鈥檙 Iaith Gymraeg yn parhau i godi proffil a chryfhau鈥檙 iaith yn Sir y Fflint.鈥

Mae amryw ddulliau cyfathrebu鈥檔 cael eu hystyried i sicrhau bod rheolwyr a gweithwyr yn gweithio o fewn y safonau.