Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Modelau Darparu Amgen - Cam 2
Published: 10/07/2019
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cam 2 rhaglen Model Darparu Amgen yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 16 Gorffennaf.
Mae鈥檙 Cyngor wedi bod yn gweithio ar raglen arloesol Modelau Darparu Amgen ers 2014, sydd wedi鈥檜 dylunio i wneud arbedion refeniw blynyddol sylweddol, wrth sicrhau bod y gwasanaethau hynny鈥檔 cael eu diogelu yn y dyfodol. Mae鈥檙 rhaglen ddechreuol hon wedi鈥檌 gwblhau'n llwyddiannus. Y trosglwyddiadau gwasanaeth sydd wedi鈥檜 cwblhau yw:
- Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgell 鈥� Aura Leisure and Libraries Ltd听
- Gwasanaethau Rheoli Arlwyo a Chyfleusterau - Newydd听
- Prisio, Ystadau, Priffyrdd, Peirianneg ac Eiddo听
- Gwasanaethau Cymdeithasol Gwasanaethau Dydd a Chyfleoedd Gwaith - HFT听
- Rhaglen Drosglwyddo Asedau Corfforaethol听
Erbyn hyn mae鈥檙 Cyngor yn barod i ddechrau ar ail gam y rhaglen sy鈥檔 uchelgeisiol ac yn fwy eang, gydag ystod eang o gysyniadau ar gyfer modelau darparu gwasanaethau amgen ar gyfer gwasanaethau presennol a modelau newydd ar gyfer arloesiadau gwasanaeth newydd.听
Mae鈥檙 cynigion ar gyfer yr ail gam, sydd oll ar wahanol gamau, wedi鈥檜 rhestru isod:
- Adleoli gwasanaeth rheoli a monitro teledu cylch caeedig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW), i ddarparu gwasanaeth teledu cylch caeedig ar y cyd, a gaiff ei reoli gan CBSW a bydd sir y Fflint yn cadw鈥檙 cyfrifoldeb dros gostau ffibr a chostau cynnal a chadw a newid camer芒u.听 Cafodd hyn ei gefnogi gan y Cabinet ym mis Mehefin.
- Theatr Clwyd 鈥� trosglwyddo trefniadau llywodraethu鈥檙 theatr i fodel ymddiriedolaeth annibynnol. Cafodd hyn ei gefnogi gan y Cabinet ym mis Mehefin a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i鈥檙 Cabinet ar gyfer penderfyniad terfynol dim hwyrach na Rhagfyr 2019.
- Gofal ar raddfa fach (gwasanaethau gofal cartref yn y gymuned) Mae Gofal ar raddfa fach yn ddull arloesol o ddatblygu modelau cefnogi gofal yn lleol, drwy fentrau cymdeithasol neu gydweithfeydd, fel ffordd o gryfhau鈥檙 ddarpariaeth ehangach o ofal cartref, sy鈥檔 profi prinder mewn gweithlu mewn nifer o ardaloedd yn y sir ac ar draws y DU.
- Gwasanaethau Masnachu Cludiant a Strydwedd - mae'r gwasanaeth yn datblygu'r cysyniad o gyflwyno Cwmni Masnachu Annibynnol 'Hyd Braich' i ddarparu a datblygu gweithgareddau masnachol, o fewn ardal ddiffiniedig o'r gwasanaeth Strydwedd, er mwyn cynyddu lefelau incwm.
- Gwasanaethau Masnachu鈥檙 Cyfrif Refeniw Tai 鈥� mae鈥檙 gwasanaeth yn datblygu cynnig i dyfu cangen fasnachu o'n Sefydliad Llafur Uniongyrchol a hyrwyddo ein gwasanaethau trydanol a nwy o safon uchel, yn ogystal 芒鈥檔 gwasanaeth ymateb i argyfwng i'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig cyfagos ac eraill, er mwyn cynhyrchu incwm.
- Menter Tlodi Bwyd 鈥� Mae鈥檙 Cyngor yn pryderu am y cynnydd mewn tlodi bwyd ac wedi bod yn archwilio, gyda'i bartneriaid, dewisiadau i ddatblygu canolfan baratoi a dosbarthu bwyd yn sir y Fflint i fynd i'r afael 芒 thlodi bwyd ar lefel mwy cynaliadwy a hirdymor.
- Cwmni Ynni Gwyrdd 鈥� gall gwmni ynni gwyrdd dan berchnogaeth yr awdurdod lleol fod 芒 nifer o swyddogaethau, gan gynnwys dod yn ddarparwr ynni yn y sector breifat, datblygu asedau creu ynni adnewyddadwy, darparu cyngor ar ynni o ran gofynion cydymffurfio statudol ac archwiliadau cwmni.听
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
鈥淢ae llwyddiant ysgubol cam un ein rhaglen Modelau Darparu Amgen yn dweud y cyfan.听 Gyda cham dau, rydym yn fwy uchelgeisiol a blaenllaw.听 Bydd sefydlu鈥檙 sefydliadau hyn yn garreg filltir arwyddocaol, gan alluogi gwasanaethau鈥檙 Cyngor i oroesi a thyfu wrth greu incwm ar gyfer y Cyngor yn ystod y cyfnodau economaidd heriol sydd ohoni.
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:
鈥淢ae sir y Fflint yn Gyngor arloesol sy鈥檔 arwain y ffordd ymysg ei gyfoedion. Roedd cam cyntaf ein Modelau Darparu Amgen yn llwyddiant. Yn yr un modd, bwriad yr ail gam yw gwneud grwp o wasanaethau yn fwy cynaliadwy drwy newid y ffordd maent yn cael eu sefydlu a'u cynnal."
Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ar 17 Medi 2019.
听