Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gostyngiad yn nhreth y cyngor i ofalwyr maeth
Published: 10/07/2019
Y mis hwn, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo mewn egwyddor, cyflwyno Cynllun Dewisol Gostyngiadau Treth y Cyngor i Ofalwyr Maeth, a ddaw i rym o fis Ebrill 2020.听
Gofynnir iddynt ystyried tri opsiwn am y lefel o ostyngiad a fyddai鈥檔 fforddiadwy i鈥檙 Cyngor, sef gostyngiad o 25%, 50% neu 75%, gan nodi mai gostyngiad o 50% fyddai鈥檙 dewis a ffefrir er mwyn alinio 芒 chynlluniau gostyngiad Treth y Cyngor ar gyfer gofalwyr maeth sydd yn weithredol mewn awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth.听
Mae gofalwyr maeth yn hanfodol i gefnogi anghenion pobl ifanc mewn gofal. Mae gofalwyr maeth yn darparu gofal amgen sy'n seiliedig ar deuluoedd mewn amgylchedd cynnes, diogel, gofalgar a meithringar. Yn aml mae plant sydd yn derbyn gofal yn eithriadol o fregus ac mae r么l gofalwyr maeth yn hanfodol i鈥檞 hamddiffyn.听
O dro o dro, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Cyngor leoli plant gyda gofalwyr maeth sector preifat, yn aml yn bellach i ffwrdd, sydd yn golygu fod y Cyngor yn talu鈥檙 pris uchaf.听
Trwy geisio cael cymeradwyaeth am gynllun gostyngiad treth y cyngor newydd ar gyfer gofalwyr maeth yr awdurdod lleol, fe allai helpu i gadw a chynyddu nifer y gofalwyr maeth yn Sir y Fflint, a chreu arbedion i鈥檙 Cyngor trwy beidio 芒 gorfod lleoli plant y tu allan i鈥檙 sir.听
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae angen cefnogaeth i annog pobl mewn i ofal maeth awdurdod lleol ac mae hon yn fenter dda iawn.听 Mae鈥檙 manteision i鈥檙 teulu yn amlwg, ond mae yna fanteision i鈥檙 Cyngor hefyd.听 Gallai鈥檙 gost o gynnig gostyngiad 50% i ofalwyr maeth yn Sir y Fflint (拢92,000) gael ei adennill petai dim ond tri o blant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr mewnol am gyfnod o 12 mis yn hytrach na gydag asiantaethau maethu allanol.听
鈥淭rwy wneud hyn, byddai鈥檙 cyngor yn arwain y ffordd trwy gydnabod y gwaith cyhoeddus allweddol y mae gofalwyr maeth yn ei wneud mewn partneriaeth gyda ni i amddiffyn plant bregus鈥.听
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
鈥淒yma enghraifft arall o ba mor arloesol ydi Cyngor Sir y Fflint 鈥 cyflwyno gostyngiad dewisol pan nad oes yna esemptiad na chynllun gostyngiad penodol ar gyfer gofalwyr maeth yn neddfwriaeth Treth y Cyngor.听 Trwy gyflwyno鈥檙 cynllun yma ym mis Ebrill 2020, byddai鈥檙 Cyngor yn ymuno 芒 dim ond dau awdurdod lleol arall yng Nghymru i gynnig cynllun o鈥檙 fath.鈥
听