Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2019 鈥 beth ydych chi鈥檔 ei wneud ar Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy?
Published: 02/07/2019
Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy鈥檔 un o ddigwyddiadau cymunedol a chadwraeth mwyaf Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007, gyda Sir y Fflint, Swydd Gaer a Chyfoeth Naturiol Cymru鈥檔 rhan-ddeiliaid allweddol. Ar hyd yr arfordir a鈥檙 afonydd sy鈥檔 llifo i Afon Dyfrdwy o Dalacre i Gaer i Langollen a gogledd Swydd Amwythig, mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn llawer mwy na diwrnod mawr o godi sbwriel.
Mae amcangyfrif bod dros 12 miliwn tunnell o blastig, yn boteli, bagiau a gronynnau plastig, yn cyrraedd y m么r bob blwyddyn (greenpeace.org.uk) ac mae potensial i lawer o blastig fod yn Afon Dyfrdwy a鈥檌 haber ac ar ei glannau a鈥檌 chorsydd.听 Yn Sir y Fflint, mae cannoedd o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn i weithio鈥檔 galed i glirio sbwriel o lannau鈥檙 afon ac o鈥檙 traethau, gan gasglu cannoedd o fagiau o sbwriel yn ogystal 芒 thwtio鈥檙 rhannau arbennig o lannau, arfordir a dalgylch Afon Dyfrdwy. Mae eu hymdrechion yn cael eu cydlynu gan Wardeniaid Cefn Gwlad y Cyngor sy鈥檔 defnyddio鈥檙 cyfle i weithio gyda nifer o grwpiau cymunedol, ysgolion a gwahanol fusnesau fel Tesco, Airbus, Kingspan, ENI a llawer mwy.
Bydd y digwyddiad eleni鈥檔 cael ei lansio ar 13 Medi a bydd yn nodi dechrau wythnos o ddigwyddiadau glanhau ar hyd Afon Dyfrdwy a鈥檌 dalgylch yn Sir y Fflint, Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Wrecsam ac rydyn ni eisiau clywed beth rydych chi鈥檔 ei wneud i gefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy! Ydych chi mewn grwp cymunedol? Ydych chi鈥檔 cymryd rhan yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy bob blwyddyn ac am wneud hynny eto eleni? Ai dyma鈥檙 tro cyntaf i chi fod yn rhan ohono? Os felly, dwedwch wrthym ni ble fyddwch chi a beth fyddwch yn ei wneud.听
Gyda鈥檔 gilydd, dewch i ni wneud gwahaniaeth MAWR i Afon Dyfrdwy eleni, i ddathlu #DiwrnodMawryDdyfrdwy.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:
鈥淢ae Afon Dyfrdwy a鈥檌 haber yn amgylchedd morol sydd o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mae hi鈥檔 hanfodol ein bod ni i gyd yn deall y bygythiad mae鈥檔 ei wynebu o ddeunydd gwastraff, yn enwedig plastig, a鈥檙 hyn y gallwn ni ei wneud i gael gwared 芒鈥檙 bygythiadau yma.
听鈥淢ae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy鈥檔 amlygu amgylchedd morol eithriadol ond bregus Afon Dyfrdwy a鈥檙 angen i鈥檞 pharchu, ei gwerthfawrogi a鈥檌 gwarchod.
听鈥淕allwn edrych ymlaen at y digwyddiadau eleni a gwneud Afon Dyfrdwy鈥檔 lle brafiach i bawb.鈥
Cysylltwch 芒 Wardeniaid Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint ar 01352 703900 neu drwy鈥檙 cyfryngau cymdeithasol (@Countryside&Coast) i gael mwy o wybodaeth neu i ddweud beth rydych chi鈥檔 ei wneud ar Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy.