Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safonau Masnach Sir y Fflint yn llwyddiannus mewn erlyniad eto
Published: 27/06/2019
Yr wythnos ddiwethaf bu i James Challenger, The Quarter, Egerton Street, Caer bledio鈥檔 euog am gynllwynio.听听
Roedd Challenger yn gweithio i Emergency Support Services yn Shotton, ac roedd yn galw busnesau yn ddiwahoddiad yn honni ei fod yn lansio ymgyrch i godi arian ar gyfer y gwasanaethau brys.听 Roedd yn honni鈥檔 ffug eu bod yn cyfrannu cyfran sylweddol o'r arian yr oeddynt yn gael gan gwsmeriaid yn hysbysebu i'r gwasanaethau brys.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry bod hwn yn gynllwyn soffistigedig a bod Challenger wedi chwarae r么l allweddol wrth hyfforddi eraill yn y busnes, roedd hefyd wedi gwerthu seithfed ran o鈥檙 hysbysebion a werthwyd.听 Cafodd ei ddedfrydu i garchar am 18 mis, dedfryd ohiriedig am 2 flynedd, cafodd ei orchymyn i gyflawni 200 awr o waith di-d芒l ac i dalu 拢3000 tuag at gostau鈥檙 ymchwiliad.
Roedd hwn yn ymchwiliad mawr gan y T卯m Ymchwiliadau Safonau Masnach Cyngor Sir Y Fflint a鈥檙 T卯m Ymchwiliad Rhanbarthol Cymru a ddechreuodd yn 2013, pan weithredwyd gwarant ar gyfer eiddo Emergency Support Services.听 Bu i naw o bobl fynd gerbron y llys, a chafwyd dau yn ddieuog, bu i鈥檙 gweddill gael dedfrydau cronedig a oedd yn dod i ddedfrydau carchar am dair mlynedd a hanner ar ddeg, naw a hanner a gafodd eu gohirio am 2 flynedd, 1,300 o oriau gwaith di-d芒l, a 拢15,500 i dalu am ein costau o鈥檜 pocedi eu hunain.听 Yn ogystal, ac yn bwysicach oll, cafodd y cynllwyn soffistigedig a wnaethpwyd i dwyllo arian gan fusnesau bach ei gau i lawr.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:
听鈥淩oedd hwn yn gynllwyn difrifol a oedd yn defnyddio enw da鈥檙 gwasanaethau brys, ac wedi anelu i gymryd arian gan nifer o fusnesau bach.听 Mae gwaith da y T卯m Ymchwiliadau Safonau Masnach Sir Y Fflint wedi cau鈥檙 cynllwyn hwn, ac mae鈥檙 dedfrydau a roddwyd gan y llys yn dangos i eraill na fydd unrhyw fusnes fel hyn yn cael ei oddef yma.鈥
Dywedodd Richard Powell, Arweinydd T卯m Ymchwiliadau Safonau Masnach:听
听鈥淐ymerodd 3 blynedd i gyflawni鈥檙 ymchwiliad a bu i nifer o swyddogion ymchwiliad dreulio oriau yn gweithio鈥檔 galed ar achos cymhleth gan ddefnyddio technegau ymchwilio na ddefnyddiwyd o'r blaen.听 Yn y pen draw, mae鈥檔 rhoi boddhad i ni bod y llysoedd wedi gweld y cynllwyn ac wedi rhoi dedfrydau a oedd yn adlewyrchu eu difrifoldeb.鈥
听