天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Llwyddiant Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Published: 11/06/2019

Mae t卯m Busnes Cyngor Sir y Fflint, Sir y Fflint mewn Busnes a Wates Construction wedi cydweithio er mwyn cynnal digwyddiad rhwydweithio mawr ar gyfer cyflenwyr ac isgontractwyr ar draws Sir y Fflint.聽

Roedd y digwyddiad yn gyfle i fusnesau lleol gofrestru eu diddordeb i fod yn bartner ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer datblygiadau newydd ar draws y sir.

Rhoddwyd cyfle i fusnesau gwrdd 芒鈥檙 prif gwmn茂au a phartneriaid adeiladu sy鈥檔 gweithio ar draws Sir y Fflint, a darganfod mwy am y gwaith adeiladu sy鈥檔 cael ei gyflawni ar draws y sir, yn ogystal 芒鈥檙 cyfle i gofrestru eu diddordeb i fod yn bartner ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer datblygiadau newydd.

Yn ystod y digwyddiad, cynigwyd cefnogaeth a chanllawiau i fusnesau ar sut i dendro ar gyfer pecynnau gwaith gyda phob contractwr, yn ogystal 芒 darganfod am brentisiaethau a hyfforddiant fel rhan o鈥檙 gwaith ymhob sir. Roedd mentoriaid hefyd wrth law i drafod ymwybyddiaeth iechyd meddwl, cefnogaeth o ran dibyniaeth ar gyffuriau ac iechyd, diogelwch a lles.聽

Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint (SHARP) a fydd yn creu 500 o gartrefi newydd ar draws Sir y Fflint, wedi creu cyfleoedd helaeth ar gyfer partneriaid cadwyn gyflenwi leol, sydd yn ei dro, wedi cynorthwyo i greu hyfforddiant ar y safle a chyfleoedd gwaith ar gyfer pobl leol.聽

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae SHARP yn ymwneud 芒 llawer mwy nag adeiladu tai cyngor a chartrefi fforddiadwy o ansawdd. Mae hefyd yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i fusnesau lleol ac mae Sir y Fflint yn awyddus i barhau i greu cyfleoedd am gyflogaeth drwy ddefnyddio busnesau lleol.鈥

Dywedodd Victoria Hill, Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad:

鈥淩oedd yn bleser cael y cyfle i fynychu鈥檙 digwyddiad pwysig hwn.聽 Er mwyn bodloni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran darparu cartrefi fforddiadwy, mae'n bwysig cefnogi'r gadwyn cyflenwi lleol er mwyn gwneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd a鈥檙 buddion economaidd lleol.聽 Mae ymgysylltiad cynnar 芒 chynllunio a chynllunwyr yn allweddol er mwyn i ni gyd wireddu'r potensial. Gadewch i ni barhau i sgwrsio!鈥

Dywedodd Paul Dodsworth, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Construction North:聽

鈥淢ae gweithio gyda phartneriaid cadwyn gyflenwi leol yn rhan hanfodol o鈥檙 gwaith a wnawn, ac mae digwyddiadau Cwrdd 芒'r Prynwr yn fforwm gwych er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn creu refeniw ar gyfer busnesau lleol. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau ein bod yn creu effaith economaidd gadarnhaol trwy ein gwaith yn y sir, yn ogystal 芒 chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogi a hyfforddi pobl leol."

Os hoffech gael rhagor o fanylion, cysylltwch 芒 Kate Catherall: kate.p.catherall@flintshire.gov.uk neu 07876576883.

June Meet the buyer.JPG 聽 聽 聽 聽聽June Meet the buyer action shot.jpg