Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned 鈥 Broughton Hall Road, Brychdyn
Published: 06/06/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian gan Lywodraeth Cymru i fynd i鈥檙 afael 芒 phryderon ynghylch diogelwch ffordd ar Broughton Hall Road, er budd y gymuned a phlant sy鈥檔 mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn.
Mae鈥檙 cynllun, sydd bellach wedi鈥檌 gwblhau ac yn weithredol, wedi cyflwyno llawer o fuddion, yn cynnwys gwneud cerdded, beicio a defnyddio sgwter yn fwy hygyrch i ddisgyblion a鈥檙 gymuned ehangach.
Mae鈥檙 gwaith sydd wedi鈥檌 gwblhau yn cynnwys:
-
rhoi wyneb newydd ar Broughton Hall Road;
-
parth 20mya sydd wedi鈥檌 reoli trwy osod twmpathau cyflymder sinwsoidaidd (sydd yn addas ar gyfer beiciau);
-
ymylon palmant isel a phalmant botymog wrth gyffyrdd;
-
twmpathau top fflat wrth groesfannau sebra presennol;
-
cyffordd wedi鈥檌 chodi yn Parkfield Road/Broughton Hall Road;
-
triniaeth ffordd ymyl cymysg yn Wynnstay Road;
-
cyrbiau uwch yng nghyffordd Co-op a gosod bolardiau i atal pobl rhag parcio ar y palmant; a
-
ymestyn y cyfyngiadau aros i wella diogelwch ar gyfer cerddwyr a symudiad traffig.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:听
鈥淩wyf yn falch iawn bod Swyddogion Strydwedd Cyngor Sir y Fflint wedi gallu cael y cyllid grant hwn gan Lywodraeth Cymru, gan ei gyfuno 芒 chyllid ail-wynebu i sicrhau cynllun gwell.
鈥淏ydd y cynllun yn gwella diogelwch a hygyrchedd i blant sydd yn mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn, yn ogystal 芒 darparu budd i'r gymuned leol drwy ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau'r ardal. 听Mae buddion pellach i鈥檙 cynllun hefyd gan ei fod yn ffurfio rhan o gynnig ehangach i weithredu darpariaeth beicio rhwng Yr Wyddgrug a Brychdyn ac ymlaen tuag at Sandycroft a Saltney.听听听
鈥淏ydd yr elfen Teithio Llesol yn gwella diogelwch ac yn annog plant a theuluoedd i gerdded, beicio a defnyddio eu sgwteri i deithio i鈥檙 ysgol.
鈥淢ae diogelwch yn fater enfawr o amgylch ysgolion, fel y mae llygredd aer o allyriadau cerbydau. Y gobaith yw y bydd y cynllun diogelwch yn annog mwy o deuluoedd i gerdded eu plant i鈥檙 ysgol.听 Mae gallu treulio amser fel teulu yn rhywbeth gwerthfawr iawn a gellir treulio鈥檙 amseroedd gorau yn cerdded a sgwrsio fel teulu.鈥
Mae cyllid Llwybrau Mwy Diogel i'r Ysgol yn cefnogi datblygiadau isadeiledd o amgylch dalgylchoedd ysgolion a chlystyrau er mwyn ei gwneud yn haws i ddisgyblion gerdded, beicio neu i fynd ar sgwter i鈥檙 ysgol yn ddiogel.听
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol a鈥檙 buddion iechyd cadarnhaol a ddaw yn sgil defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio ar gyfer siwrneiau byr bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau mai cerdded a beicio yw鈥檙 dulliau mwyaf naturiol a chyffredin o deithio, er mwyn helpu pobl i wella eu hiechyd, i leihau鈥檙 allyriadau nwyon ty gwydr ac i fynd i鈥檙 afael 芒 thlodi ac anfantais.
Ar yr un pryd mae Llywodraeth Cymru eisiau helpu i鈥檙 economi dyfu a chymryd camau i sicrhau twf economaidd cynaliadwy. Gellir gwneud hyn wrth i fwy o bobl ddechrau cerdded a beicio, gan y bydd yn lleihau tagfeydd, yn lleihau nifer y dyddiau a gollir oherwydd salwch a bydd yn cefnogi鈥檙 diwydiannau beicio a thwristiaeth yng Nghymru.听
Bydd Bil Teithio Llesol (Cymru) yn galluogi mwy o bobl i ddewis Teithio Llesol, fel dewis amgen i deithio 芒 moduron. Felly, bydd mwy o bobl yn cael cyfle i gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau o ddydd i ddydd.听
听听听 听听听听听听听听听 听 |
 |
听