Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Apêl am bethau cofiadwy o’r Ail Ryfel Byd
  		Published: 04/06/2019
Mae 2019 yn nodi 80 mlynedd ers cychwyn yr Ail Ryfel Byd.Ìý
Mae’r gwasanaethau archif lleol yn creu Archif Ail Ryfel Byd o gofnodion yn ymwneud â phrofiadau pobl leol yn ystod y rhyfel.Ìý
Cynhaliwyd derbyniad yn ddiweddar yn Neuad y Sir i lansio’r apêl, gydag aelodau Cyngor Sir y Fflint yn dod â’u trysorau teuluol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.ÌýÌý
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint:
“Rydym yn cynnal y lansiad yn ystod yr wythnos pan gofiwn am D-Day, 6 Mehefin 1944. Rydym am gofnodi sut beth oedd bywyd i'r bobl oedd yn byw yn ystod y gwrthdaro, gartref a thramor, fel na fyddant yn cael eu hanghofio gan genedlaethau'r dyfodol.Ìý Rydym yn gobeithio bydd pobl yn rhoi, ar log, neu’n benthyg, unrhyw ddogfennau teuluoedd gyda chysylltiad i flynyddoedd y rhyfel, llyfrau dogn, cardiau adnabod, lluniau o filwyr mewn iwnifform, lluniau a llythyrau i enwi ond rhai enghreifftiau."Ìý
Mae gwasanaethau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn cydweithio ar y prosiect hwn.Ìý
Os oes gennych unrhyw gofnodion yr hoffech ei rhoi sy’n ymwneud â’r naill Sir neu’r llall, (ar log) neu eu benthyg i’w sganio a’u dychwelyd i chi, anfonwch neges e-bost at (archives@flintshire.gov.uk neu archives@denbighshire.gov.uk) neu ffoniwch 01244 532364 (Sir y Fflint) neu 01824 708250 (Sir Ddinbych) i drefnu apwyntiad.Ìý Bydd angen gwneud apwyntiad i sicrhau bod staff yn gallu trafod y gweithdrefnau perthnasol gyda chi.
Ìý
| 
 Ìý 
Ìý  
Cadeirydd Cyng Marion Bateman, Cyng Andy Dunbobbin  a Claire Harrington, Y Prif Archifydd Cyngor Sir y FflintÌý Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýÌý 
Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýÌý 
 | 
 Ìý  
Cyng Arnold a Pamela Woolley, Cyng Andy Dunbobbin,  Cadeirydd Cyng Marion Bateman a'r Cynghorydd Paul Shotton  gyda phethau cofiadwyÌý Ìý Ìý ÌýÌý 
 | 
| 
   
Mae'r Cynghorwyr Haydn Bateman a Paul Shotton  yn mwynhau'r dderbynfa 
 | 
   
Samplau o bethau cofiadwy 
 | 
| 
   
Llyfr Gwasanaeth y Milwr 
 | 
   
Samplau o bethau cofiadwy 
 | 
Ìý
Ìý