Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		 Sir y Fflint mewn Busnes 
  		Published: 30/05/2019
Lansiwyd rhaglen fusnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Sir y Fflint mewn Busnes, mewn digwyddiad yn Soughton Hall yn ddiweddar.
Roedd nifer o bobl fusnes lleol yn bresennol yn y digwyddiad i glywed beth sydd gan Sir y Fflint mewn Busnes i鈥檞 gynnig trwy gydol 2019.听听
Ymhlith y rhestr mae digwyddiadau鈥檔 ymwneud 芒 menter gymdeithasol, masnach adeiladu, lles, digidol, twf busnes a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd lleol i fyfyrwyr ysgol a choleg.听
Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sy鈥檔 hynod boblogaidd, yn cael eu cynnal yn Soughton Hall ar 18 Hydref.听听
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淯nwaith eto, mae Sir y Fflint mewn Busnes yn cynnig nifer o ddigwyddiadau wedi鈥檜 trefnu gyda鈥檔 partneriaid sy鈥檔 ymwneud ag amrywiaeth o bynciau diddorol ac yn cefnogi datblygiad economaidd ein rhanbarth.鈥
Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Barry Jones:听
鈥淏ydd y rhaglen wych hon yn parhau i hyrwyddo economi bywiog Gogledd Ddwyrain Cymru.听 Yr hyn sy鈥檔 wych yw bod cysylltiad traws ffiniol o bwysigrwydd mawr, gydag aelodaeth o Gynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy ac ymglymiad ym Margen Dwf y rhanbarth.听 Ni yw鈥檙 lleoliad mwyaf effeithiol ym Mhrydain o ran gweithgynhyrchu a'r unig economi traws ffiniol ym Mhrydain.鈥
Dywedodd Prif Noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint, Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr, AGS Security Systems:
鈥淕wobrau Busnes Sir y Fflint yw un o drysorau'r calendr fusnes.听 Mae鈥檙 dathliad yn galluogi busnesau neu fentrau cymdeithasol o bob maint i gael cyfle i ddangos eu cwmni, gan ennill cydnabyddiaeth, statws a phroffil uwch, anogwn unrhyw fusnes yn Sir y Fflint i ymgeisio am y gwobrau mawreddog hyn."
Mae cyfanswm o naw gwobr yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint y gallwch ymgeisio amdanynt, ac un wobr arbennig, Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry, a wobrwyir i gydnabod gwasanaeth gydol oes arbennig i fusnes a'r economi.听 Mae enillwyr a noddwyr y categor茂au wedi eu rhestru isod:听
| 
 Prif Noddwr 
 | 
Systemau Diogelwch AGS | 
| 
 Gwobr Prentisiaeth听 
 | 
Cambria ar gyfer Busnes | 
| 
 Gwobr Person Busnes y Flwyddyn 
 | 
Gludiant Edge听 | 
| 
 Gwobr Busnes y Flwyddyn 芒 thros 10 o weithwyr听 
 | 
K K Fine Foods听 | 
| 
 Gwobr Menter Gymdeithasol Orau听 
 | 
Galliford Try plc | 
| 
 Gwobr Busnes y Flwyddyn 芒 hyd at 10 o weithwyr听 
 | 
笔谤辞-狈别迟飞辞谤办蝉听颁测蹿 | 
| 
 Gwobr Busnes Gorau i Weithio ynddo听 
 | 
P & A Grwp o Gwmn茂au听 | 
| 
 Gwobr Entrepreneur听 
 | 
Pochin | 
| 
 Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol听 
 | 
Adeiladwaith听奥补迟别蝉听 | 
| 
 Gwobr Technoleg, Arloesi a Busnes 
 | 
Kingspan Insulation Panels听 听 听 | 
| 
 Gwobr Etifeddiaeth Yr Arglwydd Barry听 
 | 
Cyngor Sir Y Fflint | 
听Gellir canfod manylion llawn y categor茂au a'r meini prawf ar gyfer ymgeisio ar wefan Sir y Fflint mewn Busnes 听neu trwy gysylltu 芒 Kate Catherall 07876 576883, kate.p.catherall@flintshire.gov.uk.
Rhaid i鈥檙 ffurflenni cais a deunydd cysylltiedig gael eu derbyn erbyn y dyddiad cau, 16 Medi 2019.听 听 听 听 听 听 听听
O'r Chwith: Dave Ibbotson 鈥撎Adeiladwaith听听Wates, Dave McKay a Zig Kruschke - Pro-Networks Cyf, Cyng Haydn Bateman, Cyng Marion Bateman - Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Jonathan Turner - Systemau Diogelwch AGS, Yr Arglwydd Barry Jones - Llywydd Sir y Fflint yn Busnes, Colin Everett - Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, y Cyng Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Nikki Edge 鈥 Gludiant Edge, y Cyng Derek Butler - yr Aelod Cabinet Datblygu Economaidd, Andy Farrow - Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi, a Steve Morgan, P & A Grwp o Gwmn茂au听 听 听听听
听
听
听