Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn barod am haf llawn hwyl
Published: 22/05/2019
Mae cynlluniau chwarae Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer haf arall llawn hwyl.
Bydd y cynlluniau sydd wedi bodoli ers 1996 yn cael eu rhedeg gan D卯m Datblygu Chwarae y Cyngor mewn partneriaeth 芒 chynghorau tref a chymuned lleol, Urdd Gobaith Cymru a Llywodraeth Cymru.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淵n Sir y Fflint rydym yn falch iawn o鈥檔 cynlluniau chwarae dros yr haf sy鈥檔 rhoi cyfleoedd i blant - yr amser, y gofod a'r caniat芒d - i chwarae allan yn lleol, cwrdd 芒 hen ffrindiau ac yn gyfle i wneud ffrindiau newydd.
鈥淵n 2018 fe gymerodd 901 o blant ran yn y cynlluniau chwarae wnaeth gymryd lle trwy gydol y Sir ac unwaith eto roeddent yn llwyddiant ysgubol.鈥
Ar gyfer yr haf hwn bydd cyfanswm o 56 lleoliad, un ai鈥檔 foreau neu brynhawniau ar draws y Sir ar gyfer 3,4,5 neu 6 wythnos o wyliau'r haf. Mae hyn yn cyfateb i 1,100 sesiwn chwarae neu 2,200 o oriau chwarae.听
Mae鈥檙 sesiynau ar gyfer plant rhwng 5 a 12 oed a hyd at 15 oed i blant ag anableddau.听
Mae croeso i blant iau fynychu gyda rhiant, nain neu daid neu ofalwr.听听
Yn gyffredinol nid oes angen cofrestru o flaen llaw ar gyfer y cynllun ar wah芒n i鈥檙 canlynol:
- 鈥楺uayplay鈥, Parc Canolog Cei Connah i blant 5 i 11 oed yn unig (5 - 15 oed ar gyfer plant ag anableddau yn mynychu鈥檙 Cynllun Cyfeillio)
- Holl blant 5 i 15 oed sydd yn mynychu trwy鈥檙 Cynllun Cyfeillio (ac i fyny at 25 oed os yw pobl ifanc ag anableddau yn wirfoddolwyr ar y safle)
- Yr holl blant sy鈥檔 cymryd rhan yn y Cynllun Rhannu Eich Cinio.听
Yn 2019, mae 900 o lefydd a gefnogir i blant ag anableddau trwy ein Cynllun Cyfeillio a 50 o sesiynau Kick for Kids (Cymru) mewn 26 o鈥檔 safleoedd cynlluniau chwarae.
Ategodd y Cynghorydd Roberts:
鈥淏ydd tri chynllun chwarae cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Croes Atti, Ysgol Bro Carmel ac Ysgol Maes Garmon am 6 wythnos yn 2019. Cofrestrodd 390 o blant ar ein cynlluniau chwarae cyfrwng Cymraeg yr haf diwethaf yn 2018 ac mae鈥檔 rhan bwysig o鈥檔 Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg bod plant yn cael y cyfle i gael mynediad i gynlluniau chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg.鈥澨
Am ragor o fanylion cysylltwch 芒 Th卯m Datblygu Chwarae Sir y Fflint ar 01352 704155, e-bost Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk.听
听