Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Portreadau maint go iawn yn cael eu harddangos yn y Fflint
Published: 14/05/2019
Bydd Llyfrgell y Fflint a Phafiliwn Jade Jones, y Fflint yn brysurach nag erioed yn ystod wythnos olaf mis Mai.聽
Y rheswm am hyn yw oherwydd y bydd y canolfannau poblogaidd yn arddangos portreadau lliw maint go iawn gan yr artistiaid Simon Grennan a Christopher Sperandio.
Mae鈥檙 portreadau yn lluniau bywiog o bobl y gwnaeth y ddau artist eu cyfarfod neu glywed amdanynt yn y Fflint yn ystod eu hymchwil ar gyfer Llwybr Celf Tref y Fflint, sef cyfres o gerfluniau ar gyfer Stryd y Castell a Stryd yr Eglwys y byddant yn mynd ati i鈥檞 creu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bydd pob un o鈥檙 portreadau lliw yn cael eu harddangos fel baneri 'tynnu i fyny' unigol ac maent yn lluniau o bobl y Fflint hen ac ifanc, o鈥檙 gorffennol a'r presennol, yn breswylwyr ac yn ymwelwyr gan roi ciplun unigryw o'r dref.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:聽
鈥淢ae hwn yn brosiect cyffrous arall fel rhan o waith adfywio鈥檙 Fflint ac mae鈥檙 portreadau鈥檔 drawiadol dros ben.聽 Bydd y lluniau yma ynghyd 芒 Llwybr y Dref a鈥檙 holl waith rhyng-genhedlaeth arall sydd wedi bod yn digwydd yn y dref yn rhoi Fflint ar y map go iawn鈥.聽
Meddai Simon Grennan, un o鈥檙 ddau artist:
鈥淒a ni鈥檔 gweithio ar draws y byd ac mae鈥檙 croeso 鈥榙a ni wedi鈥檌 gael gan bobl y Fflint ymysg y cynhesaf 鈥榙a ni wedi鈥檌 gael erioed. Mae gwneud portreadau yn un o鈥檙 dulliau sy鈥檔 caniatau i ni gyfarfod pobl wrth greu celf newydd, a 鈥榙a ni wedi cael ymateb anhygoel, gan glybiau ieuenctid, ysgolion, haneswyr a chrefftwyr, chwaraewyr dominos a chwaraewyr rygbi, brownis a geidiau, pobl sy鈥檔 hoffi gweu a llawer iawn mwy鈥.
Datblygwyd y comisiwn ar gyfer Llwybr Celf y Fflint mewn partneriaeth a Chyngor Sir y Fflint, Cadw a Churadurion Addo ac mae'n rhan o Brosiect Adfywio Blaendraeth y Fflint.
I gael rhagor o wybodaeth a ffotograffau, cysylltwch 芒:聽Gwenno Jones 鈥 01352 702471- gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk / Simon Grennan 鈥 simon.grennan@zen.co.uk.
聽 聽 聽 聽 聽 |
聽 聽 聽 聽 聽 聽 |