Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwaith Ail-wynebu Ffyrdd Cerbydau 2019/20
  		Published: 14/05/2019
Mae'n bleser gan Gyngor Sir y Fflint gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £1.4 miliwn i ymgymryd â gwelliannau i 25 ffordd yn y Sir.   
Bydd y gwaith ail-wynebu ffyrdd yn dechrau ddiwedd mis Mai ac yn cael eu cwblhau mewn oddeutu chwe mis. 
Mae’r rhaglen yn cael ei chynhyrchu gan Swyddogion Gwasanaethau Stryd a fydd yn arolygu’r rhwydwaith priffyrdd i asesu’r cyflwr er mwyn blaenoriaethu ffyrdd sydd angen eu hatgyweirio.
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 
“Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol presennol, rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith gwella pwysig ac angenrheidiol hwn i’n rhwydwaith ffyrdd sy’n dangos pa mor bwysig yw cynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd i’r Cyngor hwn.  
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi. “ 
Mae manylion y rhaglen ail-wynebu llawn ar gael ar wefan y Cyngor .