Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Maethu Cyntaf yng Nghymru i Fabwysiadu Model Cefnogaeth gan Gynghreiriaid
Published: 10/05/2019
Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint fydd y gwasanaeth maethu cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu rhaglen arloesol Mockingbird gan y Rhwydwaith Maethu.听
Mae鈥檙 rhaglen yn cael ei mabwysiadu yng nghanol ymgyrch ymwybyddiaeth maethu fwyaf y DU - Pythefnos Gofal Maeth - a bydd yr awdurdod lleol yn ymuno 芒 26 gwasanaeth maethu arall o amgylch y DU yn defnyddio鈥檙 rhaglen cefnogaeth gan gymheiriaid.听
Mae鈥檙 rhaglen Mockingbird yn cyflwyno鈥檙 Model Teulu Mockingbird sydd yn ddull o ofal maeth sy鈥檔 defnyddio model teulu estynedig sydd yn darparu arhosiad dros nos a seibiannau byr, cefnogaeth gan gymheiriaid, cydgynllunio rheolaidd, gweithgareddau hyfforddi a chymdeithasol i gefnogi plant mewn gofal yn ogystal 芒 theuluoedd maethu. Mae鈥檙 rhaglen Mockingbird eisoes wedi鈥檌 sefydlu yn Lloegr, ac mae wedi darparu buddion megis osgoi costau i wasanaethu maethu, gwell cefnogaeth i ofalwyr maeth a rhagor o sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc sy'n cael eu maethu.听
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Sir y Fflint wrth ein bodd mai ni yw鈥檙 gwasanaeth maethu cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu鈥檙 dull yma o gefnogi ein gofalwyr maeth a phlant sy鈥檔 derbyn gofal.听
鈥淕all dod yn ofalwr maeth fod yn frawychus. Mae鈥檙 model Mockingbird yn dod 芒 grwp o ofalwyr maeth sydd yn byw gerllaw ynghyd i ddarparu cyngor a chymorth ar alw. Bydd yn darparu cefnogaeth i鈥檙 rhai sydd eisoes yn gofalu ac i ofalwyr newydd.鈥
Fe ymatebodd gofalwyr maeth yn Sir y Fflint yn gadarnhaol i鈥檙 newyddion mewn ymgynghoriad ac arolwg diweddar, pan gytunodd y mwyafrif bod rhaglen Mockingbird yn syniad da ac y byddai鈥檔 helpu gofalwyr maeth. Dywedodd gofalwyr maeth y byddai mabwysiadu鈥檙 Model Mockingbird yn 鈥榮yniad da鈥 a鈥檌 fod yn 鈥榞ysyniad gwych鈥. Canmolodd gofalwr maeth arall y gwasanaeth maethu yn Sir y Fflint am fod yn 鈥榝laengar鈥.
Mae鈥檙 rhaglen Mockingbird hefyd yn mynd i鈥檙 afael 芒 rhai o鈥檙 materion a nodwyd yn ddiweddar yn arolwg Bright Spots o blant sy鈥檔 derbyn gofal yn Sir y Fflint, pan ddywedodd pobl ifanc eu bod eisiau seibiant gyda鈥檙 un gofalwyr, ac nad ydynt eisiau i oedolion dynnu sylw at y ffaith eu bod mewn gofal a鈥檜 trin yn wahanol. Hefyd, maent eisiau mwy o amser gyda鈥檜 brodyr a chwiorydd os nad oes modd iddynt fyw gyda nhw.听
Dywedodd grwp Young Voices Out Loud Sir y Fflint sydd yn cynrychioli plant a phobl ifanc mewn gofal maeth听
鈥淩ydym ni鈥檔 meddwl ei fod yn syniad da iawn. Gall pobl ifanc sydd yn newydd i鈥檙 system gofal wneud ffrindiau a chymdeithasu gyda mwy o bobl yn yr un amgylchedd. Os bydd y prif ofalwr yno, rydych chi鈥檔 eu hadnabod ac maen nhw鈥檔 gwybod beth rydych chi鈥檔 ei hoffi. Dydych chi ddim yn gwybod pwy sydd yn ofalwr seibiant weithiau. Fe fydd yn lle diogel i fynd. Rydym eisiau Mockingbird i ddigwydd yng Nghymru.鈥
Dywedodd Colin Turner, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru:听
鈥淢ae鈥檔 bleser gennym roi rhaglen Mockingbird ar waith yng Nghymru sy鈥檔 cael ei ariannu trwy raglen 鈥楢rloesi i Arbed鈥 gan Lywodraeth Cymru.听 Edrychwn ymlaen at weld yr effaith cadarnhaol y bydd Mockingbird yn ei gael ar bawb sydd yn ymwneud 芒鈥檙 rhaglen yn Sir y Fflint.鈥
Llwyddiannau Mockingbird
Dywedodd rheolwr rhaglen Mockingbird ar gyfer Y Rhwydwaith Maethu, Lily Stevens:听
鈥淩ydym wrth ein boddau gyda鈥檙 effaith y mae rhaglen Mockingbird wedi鈥檌 gael ar y gwasanaethau maethu, gofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc sydd yn ymwneud 芒鈥檙 rhaglen. Un o fanteision sylweddol y rhaglen yw ei fod wedi cefnogi gofalwyr maeth a鈥檙 bobl ifanc maent yn gofalu amdanynt i feithrin perthnasau cryfach sy鈥檔 golygu bod llai o blant a phobl ifanc sydd yn rhan o鈥檙 rhaglen yn gorfod symud rhwng teuluoedd maeth. Mae鈥檙 sefydlogrwydd yma鈥檔 galluogi i blant a phobl ifanc ffynnu.鈥
Pythefnos Gofal Maeth 2019
Mae Pythefnos Gofal Maeth, rhwng 13 a 26 Mai, yn cael ei ddylunio a'i gyflwyno gan elusen maethu fwyaf y DU - Y Rhwydwaith Maethu - a'r nod yw codi proffil maethu a recriwtio mwy o ofalwyr maeth. Mae thema eleni #NewidDyfodol yn pwysleisio sut mae maethu yn newid dyfodol plant mewn gofal, yn ogystal 芒 dyfodol y teuluoedd sydd yn gofalu amdanynt.听 Cefnogwch yr ymgyrch a dysgwch fwy am faeth yn www.couldyoufoster.or.uk听
I ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth ar gyfer Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint, gallwch fynychu noson wybodaeth ar:
Dydd Llun 13 Mai, Lleng Brydeinig Frenhinol Penymynydd a Phenyffordd, 7pm
Dydd Llun 20 Mai, Lleng Brydeinig Frenhinol Penymynydd a Phenyffordd, 7pm
听