Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trefniadaeth Ysgolion: Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm
Published: 14/05/2019
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd cynaliadwy o gadw鈥檙 ysgol yn y gymuned leol ar y cyd ag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a鈥檙 Cyngor Sir.
Ffrwyth eu llafur yw cytundeb rhwng llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm a llywodraethwyr Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Esgob yng Nghaerwys i geisio ffurfio ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol. Fodd bynnag, nid yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn caniat谩u i ysgolion ffydd na rhai sy鈥檔 seiliedig ar ymddiriedolaeth, gan gynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a rhai gwirfoddol a reolir, i ffedereiddio ag ysgolion cymunedol.
Pe byddai Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn newid yn un Wirfoddol a Gynorthwyir yn unol 芒鈥檙 bwriad, byddai鈥檙 ysgol yn gymwys i gael ei hystyried ar gyfer derbyn cyllid drwy Raglen Gyfalaf yr Awdurdod Esgobaethol ar gyfer Trwsio a Chynnal a Chadw. Hefyd, mae rhai grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru nad ydynt ond ar gael i ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.
Er mwyn medru ymchwilio ymhellach i鈥檙 dewis o ffedereiddio, bydd angen i鈥檙 Cyngor a鈥檌 bartneriaid ymgynghori ynghylch y bwriad i newid Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn ysgol gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir, yn unol 芒 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid,
鈥淔el rhan o鈥檙 drefn ymgynghori wrth newid dynodiad Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Cyngor fod yn 鈥済ynigydd鈥� at ddibenion ymgynghori ffurfiol, a byddai鈥檔 ofynnol i鈥檙 Cabinet benderfynu a ddylid gweithredu鈥檙 cynnig ai peidio.听
鈥淢ae llywodraethwyr Ysgol Licswm wedi ymchwilio i鈥檙 dewisiadau ar gyfer cadw鈥檙 ysgol yn y gymuned ar y cyd ag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a swyddogion y Cyngor. O ganlyniad i hynny mae llywodraethwyr Ysgol yr Esgob ac Ysgol Licswm wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ffurfiol 芒鈥檜 cymunedau ynghylch y bwriad i sefydlu cytundeb Ffedereiddio rhwng y ddwy ysgol. O ran unrhyw gynigion i ffedereiddio a ddaw yn sgil hynny, y Cyrff Llywodraethu eu hunain a fyddai鈥檔 eu hystyried ac yn penderfynu yn eu cylch.鈥�
Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor i ymgynghori鈥檔 ffurfiol ynghylch newid dynodiad Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn y cyfarfod ddydd Mawrth, 14 Mai.
听
听