Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Enillydd Medal Arian yng Ngemaur Gymanwlad
  		Published: 19/01/2015
Mae Sally Peake, a enillodd Fedal Arian yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad, wedi ymweld 芒 
Neuadd y Sir lle cafodd ei llongyfarch yn ffurfiol am ei llwyddiant.
Croesawyd Sally gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin, 
YH, ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton.
Llwyddodd Sally, o Benarl芒g, i ennill ei Medal Arian yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad yn 
Glasgow y llynedd am lofnaid gyda鈥檙 polyn. 
Yn ogystal 芒 chystadlu鈥檔 rhyngwladol, mae Sally hefyd yn gweithio fel 
ffisiotherapydd gyda鈥檙 nos er mwyn cael amser i hyfforddi yn ystod y dydd.
Mae Sally鈥檔 parhau i weithio gan nad yw鈥檔 derbyn unrhyw gyllid gan Athletau鈥檙 
DU er ei bod yn cael grant bach gan Athletau Cymru.  Mae鈥檔 chwilio am arian ar 
hyn o bryd er mwyn prynu polion newydd ar 么l i鈥檞 hen bolion fynd ar goll yn 
ystod taith awyren ychydig cyn Gemau鈥檙 Gymanwlad.  Cafodd fenthyg polion i 
gystadlu yn y Gemau hynny.
Meddai鈥檙 Cadeirydd, y Cynghorydd Glenys Diskin YH:
鈥淩oedd yn anrhydedd ac yn bleser pur cael croesawu Sally i Neuadd y Sir.  Rwyf 
wedi adnabod Sally a鈥檌 theulu ers 30 o flynyddoedd ac maent yn deulu hyfryd.  
Mae ennill medal arian yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad yn gyflawniad mawr 鈥 hyd yn oed 
yn fwy rhyfeddol yw ei bod wedi defnyddio polion rhywun arall i wneud hynny.  
Rwy鈥檔 gobeithio y gallwn ei helpu i godi ei phroffil a鈥檌 helpu i gael rhywfaint 
o gyllid.鈥
Meddai鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Sally yn ysbrydoliaeth 鈥 mae鈥檙 sir yn eithriadol o falch ohoni.  Mae ei 
hymroddiad, ei phenderfyniad a鈥檌 llwyddiannau鈥檔 drawiadol iawn.  Mae Sally鈥檔 
haeddu cystadlu 芒鈥檌 pholion ei hun.  Byddai鈥檔 wych pe bai modd dod o hyd i 
nawdd iddi ac rwy鈥檔 annog busnesau lleol i gamu ymlaen a darparu unrhyw gymorth 
posibl i Sally.
Mae Sally bellach yn edrych ymlaen at Rio a Gemau nesaf y Gymanwlad. 
Ychwanegodd:
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Sir y Fflint am y cymorth a鈥檙 
gydnabyddiaeth yr wyf wedi鈥檜 cael.  Gobeithio fy mod wedi ysbrydoli athletwyr 
ifanc gogledd Cymru i ddilyn eu breuddwydion a鈥檜 huchelgeisiau hefyd.  Os gall 
unrhyw un fy helpu, e-bostiwch fi ar salimali82@hotmail.com. 
Llun
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde, mae鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton, Sally Peake, Mike Welch 
(Cyngor Sir y Fflint), Y Cynghorydd Glenys Diskin a Mrs Christine Peake, mam 
Sally.